Daeth cadarnhad fod un achos o’r coronafeirws yng Nghanolfan Addysg y Bont yn Llangefni.
Mae un plentyn wedi profi’n bositif am y feirws, ac mae staff a rhieni wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd fod y feirws ar led yn y sefydliad, a fydd yn aros ar agor ar gyfer dosbarthiadau nad ydyn nhw wedi cael eu heffeithio.
Mae disgyblion a staff wedi cael cyngor i hunanynysu am 14 diwrnod ac i wneud cais am brawf os ydyn nhw’n cael symptomau.
Ymateb Cyngor Môn
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Addysg y Bont ac yn cefnogi’r staff yn ystod y cyfnod anodd yma,” meddai Annwen Morgan, prif weithredwr Cyngor Môn.
“Ein blaenoriaeth yw lles y disgyblion, staff a’r gymuned ehangach.
“Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yma, yn ogystal ag ysgolion eraill sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.
“Fel yr arfer, rydym yn estyn ein dymuniadau gorau i’r plentyn, y teulu a chymuned gyfan yr ysgol.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion ac mae gan bob un fesurau yn eu lle er mwyn ceisio cyfyngau ar ledaeniad posib y feirws.
“Mae’r rhain yn cynnwys glanhau ychwanegol, rhannu dosbarthiadau a hyrwyddo hylendid da ymysg disgyblion.”