Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn dweud bod negeseuon WhatsApp rhyngddi hi a’i rhagflaenydd Alex Salmond yn dangos ei fod e’n “amlwg yn grac” â hi am fethu â chelu’r honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol.

Cafodd hi ei chyhuddo o ddal y negeseuon yn ôl, ond mae hi’n mynnu nad oedden nhw’n “ddatguddiad mawr” a’u bod nhw’n “dacteg tynnu sylw” gan Alex Salmond, oedd yn amlwg wedi’i “gythruddo”.

Dywedodd wrth Sky News fod yna “gyfeiriad” yn y negeseuon at honiadau o gamymddwyn gan Alex Salmond, er iddi fynnu ei bod hi wedi rhoi’r holl dystiolaeth i ymchwiliad Holyrood i’r ffordd y gwnaeth Llywodraeth yr Alban ymateb i’r helynt.

Sgwrs WhatsApp

Roedd y Times yn adrodd ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 10) fod cyfreithwyr Alex Salmond yn cyhuddo Nicola Sturgeon o ddal negeseuon yn ôl yn dilyn sgwrs rhyngddyn nhw ar WhatsApp.

Wrth siarad â Sophy Ridge on Sunday, fe wnaeth hi gynnig darllen y negeseuon yn gyhoeddus.

Dywedodd mai diben y negeseuon oedd “sefydlu sgwrs” ynghylch ymchwiliad gan Sky News yn 2017 i’r honiadau yn erbyn Alex Salmond ei fod e wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ddynes oedd yn gweithio ym maes awyr Caeredin.

Dywedodd fod y negeseuon wedi cael eu hanfon ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, a’i bod hi wedi gofyn iddo am ymchwiliad Sky News a’i bod hi wedi gofyn iddo sawl gwaith yn y dyddiau wedyn am sgwrs.

Mae’n dweud bod neges ganddi’n dweud “Dim syndod nad oeddet ti eisiau dweud wrtha i” yn cyfeirio at y newyddion y byddai’n cyflwyno rhaglen radio i Russia Today, a bod y negeseuon yn fynegiant o’i “anghrediniaeth”.

Dywedodd iddo yntau ymateb gan gyfeirio at ymchwiliad Sky News.

‘Tynnu sylw’

Dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi’n bosib fod Alex Salmond eisiau i bobol gredu bod yr honiadau’n “gynllwyn mawr” i dynnu sylw oddi ar ei ymddygiad.

Ond dywedodd nad oedd hynny wedi digwydd.

“Dw i’n ofni bod yma stori oesol fod dyn wedi’i gyhuddo o gamymddwyn yn erbyn menywod, ac yn aml y fenyw sy’n gorfod eu hateb,” meddai.

“Yn wleidyddol, un o’r pethau gwaethaf fu’n rhaid i fi ei wynebu oedd y realiti fod fy rhagflaenydd – fy mentor ers 30 mlynedd, rhywun roeddwn i’n ei ystyried yn ffrind, yn nes ataf na neb arall, fwy na thebyg, y tu allan i’m teulu – yn wynebu cyhuddiadau difrifol o gamymddwyn yn rhywiol.

“Bob dydd, fe wnes i geisio gwneud y peth cywir a pheidio â’i gelu, a dw i’n credu mai’r rheswm pam ei fod e’n grac gyda fi – ac mae e’n amlwg yn grac â fi – yw nad oeddwn i wedi’i gelu.

“Wnes i ddim cynllwynio â fe i wneud i’r honiadau yma fynd i ffwrdd ac efallai mai dyna sydd wrth wraidd y ffaith ei fod e’n ymddangos mor grac â hynny â fi.”

Achos llys

Cafwyd Alex Salmond yn ddieuog yng Nghaeredin ym mis Mawrth o 13 cyhuddiad o ymosod yn rhywiol, ceisio treisio ac ymosod yn anweddus.

Derbyniodd e fwy na £50,000 mewn her gyfreithiol ar ôl i lys benderfynu bod ymchwiliad Llywodraeth yr Alban i’r ymddygiad yn anghyfreithlon.