Mae Arlywydd Ffiji yn dweud mai’r ynys yw’r “lle gorau yn y byd”, wrth i’r genedl ddathlu hanner canmlwyddiant ers ennill ei hannibyniaeth.
Daeth sylwadau Jioji Konusi Konrote ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 11), ar ôl iddo fod yn teithio i bob rhan o Ffiji fel rhan o’r dathliadau swyddogol.
Ac fe ddywedodd na allai “unrhyw feirws nac argyfwng unwaith-mewn-canrif leihau’r cariad rydyn ni’n ei rannu tuag at ein cenedl, ein pobol na’n cartref”.
Mae Ffiji, meddai, yn un o’r gwledydd mwyaf diogel rhag y feirws erbyn hyn, a hynny ar ôl cau ei ffiniau i bobol o’r tu allan am y tro.
“Yn wir, mae’r rhan fwyaf ohonoch yn gwylio hyn o’ch cartrefi ymhlith ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, efallai gyda baner Ffiji yn hedfan o do eich cartref, yn eich llaw neu o gwmpas eich ysgwyddau, gyda lovo neu gyri yn coginio yn y cefndir,” meddai, wrth gyfeirio at y dathliadau sydd wedi bod ychydig yn wahanol i’r arfer eleni yn sgil cyfyngiadau coronafeirws.
“Fe fydd hanes yn dweud, er gwaetha’r her wnaethon ni ei hwynebu, na chafodd ein hysbryd ei niweidio.
“Mewn hwyliau a iechyd da, fe wnaeth Ffijiaid ym mhob dinas, tref, cymuned, gan gynnwys ein rhanbarthau mwyaf gwledig a morwrol, ddathlu’n falch ein taith 50 mlynedd fel cenedl.”
Codi’n uwch na’r disgwyl
Dros y 50 mlynedd diwethaf, meddai, mae Ffiji “wedi codi i uchelfannau nad oedd rhai wedi’u dychmygu, ond y gwnaethon ni eu rhagweld drosom ein hunain”.
“Rydym yn gyfrannwr mawr o ran cadw heddwch yn y byd, yn arweinydd byd o ran y frwydr i herio newid hinsawdd ac i warchod ein moroedd,” meddai.
“Ni yw hwb economaidd Ynysoedd y De, yn arweinydd awyrennau, cyllid, telegyfathrebu a thechnoleg, a masnach.
“Rydym wedi ymestyn ein rhwydweithiau isadeiledd yn sylweddol.
“Rydym wedi rhoi drygau’r gorffennol y tu ôl i ni.
“Heddiw, mae holl drigolion Ffiji yn rhannu dinasyddiaeth gyffredin a chydradd a phleidleisiau cydradd o’r un gwerth, ynghyd â hawliau eang yn wleidyddol ac yn socio-economaidd yng Nghyfansoddiad Ffiji.
“Mae ein chwarewyr rygbi wedi dod adref o’r Gemau Olympaidd â medalau aur am eu gyddfau.
“Rydym wedi cynnal cyfarfodydd rhyngwladol a digwyddiadau chwaraeon mawr.
“Tra bod ein ffiniau ynghau heddiw, rydym yn dal yn un o’r cyrchfannau mwyaf dymunol i deithwyr.”
‘Nid lwc na siawns’
“Nid lwc na siawns yw ein llwyddiant,” meddai wedyn.
“Fe ddaeth oherwydd fod ein pobol, gyda’u cryfderau a’u sgiliau amrywiol, wedi dod ynghyd i symud Ffiji yn ei blaen, yn wybod a heb yn wybod iddyn nhw.
“Oherwydd ein bod ni wedi uno, wedi gweithio’n galed, ac wedi tynnu ein doniau ynghyd, rydym wedi adeiladu cenedl wych.
“Rydym wedi diffinio’r hyn mae wir yn ei olygu i fod yn Ffijiaid.
“A beth yw hynny?
“Mae bod yn Ffijiaid yn golygu bod yn ddewr ac yn optimistaidd.
“Mae bod yn Ffijiaid yn golygu caru’r wlad hon, caru’ch cymdogion, ac i ofalu am eich cyd-ddyn, waeth bynnag am eu cefndir.
“Oherwydd er mwyn bod yn bobol wydn, rhaid i ni fod yn bobol gryf, yn bobol ofalgar, ac yn bobol unedig.
“Gyda’n gilydd, rydym wedi gwneud pethau mawr, a gyda’n gilydd fe wnawn ni fwy o bethau mawr yn y 50 mlynedd nesaf.”
Beth sy’n gwneud Ffiji’n arbennig?
Dywedodd wedyn fod myfyrwyr Ffiji wedi cael eu holi ynghylch eu barn am yr hyn sy’n gwneud Ffiji yn wlad arbennig.
Ymhlith eu hatebion, meddai, roedd ei hieithoedd, ffydd ei phobol yn Nuw, ei thradoddiadau, ei hoffter o chwaraeon, ei harddwch naturiol, hawliau ei thrigolion, ei Chyfansoddiad, ei cherddoriaeth, a’i bwyd.
Ond fe ddywedodd mai’r ateb gorau oedd fod pobol Ffiji “yn gwneud ein taith yn gyflawn”.
“Mae’r 50 mlynedd diwethaf wedi profi mai ein pobol, gyda’i gilydd, sydd wedi gwneud Ffiji y lle mwyaf arbennig ar y Ddaear,” meddai.
“Dim ots sut y gwnaethon ni gyrraedd, dim ots pwy yw ein cyndeidiau, rydym oll yn gwneud Ffiji yn arbennig.
“Rydym oll yn gwneud Ffiji yn gryfach.
“Pan ydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd, yn ffrindiau, yn deulu, yn gyd-Ffijiaid, does dim her na allwn ni mo’i goresgyn.
“Does dim byd na allwn ni mo’i gyflawni.
“Felly i bob un Ffijiwr, lle bynnag yr ydych chi, sut bynnag rydych chi’n dathlu, dw i’n diolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud i wneud Ffiji yn arbennig, a dw i’n dymuno Diwrnod Ffiji 50 hapus iawn i chi.”