Mae’r ymchwiliad i honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn y diweddar Arglwydd Janner wedi dechrau heddiw (Dydd Llun, Hydref 12), gyda rhannau helaeth o’r dystiolaeth yn cael eu clywed y tu ôl i ddrysau caeedig.
Dyma’r gwrandawiad diweddaraf yn yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) a fydd yn canolbwyntio ar ymateb yr heddlu a’r erlyniad i honiadau a wnaed yn erbyn yr Arglwydd Janner sy’n dyddio nôl i ganol y 1950au.
Bu farw’r Arglwydd Janner yn 2015 ac ar y pryd roedd yn wynebu 22 cyhuddiad o droseddau’n ymwneud a cham-drin plant yn rhywiol mewn cysylltiad â naw bachgen.
Roedd ei ymddangosiad cyhoeddus olaf ar gyfer gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Westminster. Fe benderfynwyd ei fod yn rhy wael, oherwydd dementia, i sefyll ei brawf a bu farw cyn i’r achos gael ei gynnal. Cafodd yr achos ei ollwng ar ôl iddo farw.
“Camgymeriad mawr”
Yn gynharach eleni, fe gadarnhaodd cadeiryddes IICSA, yr Athro Alexis Jay y byddai’r ymchwiliad i ymateb Heddlu Swydd Caerlŷr a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau, er gwaetha gwrthwynebiad gan deulu’r Arglwydd Janner.
Fe fydd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth y tu ôl i ddrysau caeedig er mwyn diogelu’r rhai sydd wedi ei gyhuddo.
Mae’r Athro Jay wedi dweud nad bwriad y rhan yma o’r ymchwiliad yw penderfynu os oedd yr Arglwydd Janner yn euog neu’n ddieuog, ond yn hytrach yn “ymchwiliad i’r sefydliadau a sut roedden nhw wedi ymateb i’r honiadau a wnaed yn erbyn yr Arglwydd Janner.”
Ond mae mab yr Arglwydd Janner, Daniel Janner QC, wedi dweud bod y penderfyniad i fwrw mlaen gyda’r ymchwiliad “yn gamgymeriad mawr” ac wedi’i “seilio ar ragdybiaeth o euogrwydd. Nid yw fy nhad yn gallu ateb o’r bedd.”
Fe fydd adroddiad terfynol o gasgliadau’r ymchwiliad yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd yn 2022.