Mae ffermwyr yn mynnu bod safonau bwyd Prydain yn cael eu gwarchod mewn cytundebau masnach ôl-Brexit drwy gynnal protest gyda thractorau yng nghanol Llundain heddiw (dydd Llun, Hydref 12).

Bydd y tractorau yn ymgynnull am 1 o’r gloch fel rhan o brotest sydd wedi cael ei threfnu gan Save British Farming.

Maen nhw’n bwriadu gorymdeithio i’r Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Sgwâr y Senedd wrth i Aelodau Seneddol baratoi i bleidleisio ar welliant i’r Mesur Amaeth.

Diwygiodd Tŷ’r Arglwyddi’r ddeddfwriaeth fis diwethaf mewn ymdrech i atal cynnyrch gyda safonau lles anifeiliaid is rhag cael eu mewnforio.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth wrthdroi’r gwelliant yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae wedi mynnu na fydd safonau bwyd yn gostwng.

Mae Llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Minette Batters wedi rhybuddio am gyw iâr wedi ei glorineiddio a chig eidion wedi’i drin â hormonau.

“Ar hyn o bryd rydym yn trafod mater cymhleth gyda diogelwch bwyd, fel cyw iâr wedi ei glorineiddio, triniaeth gemegol cyw iâr a chig eidion wedi’i drin â hormonau,” meddai wrth BBC Radio 4.

“Cefnogi ffermwyr a safonau Prydeinig”

Mae’r Blaid Lafur yn galw ar weinidogion i “sicrhau” na fydd safonau bwyd yn gostwng o ganlyniad i gytundebau masnach gyda’r Unol Daleithiau, Awstralia a gwledydd eraill.

“Mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod yn cefnogi ffermwyr a safonau Prydeinig, mae’n amser iddyn nhw ddangos hynny,” meddai llefarydd Amgylchedd yr wrthblaid, Luke Pollard.

“Byddai pleidleisio yn erbyn ymrwymiad i warchod safonau bwyd oedd yn eu maniffesto yn hurt.”