Mae’r awdur Angharad Blythe wedi bod yn trafod ei phrofiad o werthu ei thŷ ger pentref Bethel yng Ngwynedd – gyda chymorth y gymuned Gymraeg ar Facebook.
Ei nod oedd sicrhau bod y prynwyr yn bobl leol.
Eglura Angharad ei bod wedi rhoi hysbyseb y tŷ ar grŵp Facebook ‘Rhwydwaith Menywod Cymru’, sydd â dros ddeng mil o aelodau o bob cwr o Gymru. Drwy’r cymorth hwnnw, mae’r tŷ wedi ei werthu.
Er ei bod yn cydnabod bod hynny wedi arwain at golli peth arian, dywed fod “gwerthu i bobol leol yn bwysicach na gwneud elw mawr – er nad ydw i’n graig o arian, o bell ffordd!”
“Cyfnod argyfyngus i’r farchnad dai yng Nghymru”
Wrth drafod ei rhesymeg dros werthu yn lleol, dywedodd Angharad:
“Mae’n gyfnod argyfyngus i’r farchnad dai yng Nghymru ac mae angen gweithredu rŵan os nad ydan ni am i’r iaith a’n cymunedau ni gael eu dinistrio.”
“Mae hyn wedi bod yn broblem enfawr ers blynyddoedd wrth gwrs, gyda’r rhan helaeth o bobl leol yn cael eu cau allan o’r farchnad yn gyfan gwbl oherwydd y cynnydd mewn prisiau tai.”
Dywed fod hynny wedi achosi “cyfyng gyngor” ofnadwy iddi, wrth fynd ati i werthu ei thŷ a cheisio osgoi colled ariannol fawr.
“Ceisio denu prynwyr lleol”
Er hynny, mae’n debyg bod yr egwyddor yn bwysicach iddi ar ddiwedd y dydd:
“Mi wnes i roi’r tŷ ar y farchnad am bris dipyn is nag y mae’r tŷ ei werth a hynny yn benodol er mwyn ceisio denu prynwyr lleol.”
Yn ôl Angharad, mae’r sefyllfa wedi cael ei ddwysau gan gyfyngiadau Covid-19 wrth i “nifer fawr iawn o bobl o du hwnt i’r ffin brynu ail gartrefi yma er mwyn cael dod i ddianc o’r dinasoedd mawr.”
“Mi ges i sawl un yn dod i weld y tŷ a oedd yn awyddus i droi’r lle yn dŷ haf ond faswn i ddim wedi medru byw yn fy nghroen taswn i wedi gwerthu iddyn nhw.”
Yr hyn sy’n bwysig, medd Angharad, yw’r parodrwydd gan brynwyr i fod yn barod i “gyfrannu tuag at y gymuned, [efallai drwy] ddysgu’r iaith Gymraeg, wedi’r cwbl, da ni’n holl ddibynnol ar ddysgwyr os ydi’r iaith am ffynnu, neu drwy fod eu plant yn mynychu’r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol.”
Yn ei hachos hi, dywed ei bod yn teimlo’n ffodus o fod wedi derbyn cynigion gan deuluoedd lleol ac mi fyddai wedi bod yn sefyllfa llawer anoddach iddi, petai hynny heb ddigwydd.
“Be mae rhywun yn ei wneud yn y sefyllfa honno, yn enwedig os oes gan y prynwr frys i werthu’r tŷ fel yn fy achos i? Wedi’r cwbl, mae pawb isio byw.”
Rali
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu rali aml-leoliad, sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi grymoedd i Awdurdodau Lleol reoli’r farchnad dai, sydd i’w chynnal ddydd Sadwrn, Hydref 24, yn Llanberis, Caerfyrddin ac Aberaeron.
Wrth drafod y digwyddiad hwnnw, dywedodd Angharad:
“Dyma un peth bach fedar pawb ohonan ni ei wneud i godi llais.”