Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi dweud na allai ei phlaid “wedi bod yn fwy clir” wrth ymateb i Margaret Ferrier yn torri rheolau’r coronafeirws.

Wrth siarad ar raglen Sky News Sophy Ridge on Sunday, dywedodd Nicola Sturgeon fod ymddygiad Margaret Ferrier yn “annerbyniol” ac y dylai hi gamu o’r neilltu.

Daw hyn ar ôl i Margaret Ferrier, sy’n cynrychioli Gorllewin Rutherglen and Hamilton, ddweud bod penderfyniad y blaid i dynnu’r chwip oddi wrthi wedi ei seilio ar ymateb y cyhoedd iddi’n torri’r rheolau.

“Dw i ddim yn meddwl y gallai’r SNP wedi bod yn fwy clir ynglyn â hyn oll,” meddai Nicola Sturgeon yng nghynhadledd coronafeirws dyddiol Llywodraeth yr Alban heddiw (Hydref 12).

“Fe wnaeth hi golli’r chwip a chafodd ei gwahardd o’r SNP, mae yno broses nawr ac mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol gydymffurfio â’r broses, byddwn yn dilyn y broses honno.

“Dw i hefyd yn credu y dylai hi ymddiswyddo o Dŷ’r Cyffredin ond nid oes gennyf y pŵer i’w gorfodi hi i wneud hynny.”

Roedd Arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford, wedi siarad gyda Margaret Ferrier am dynnu’r chwip wedi iddi ddod i’r amlwg ei bod hi wedi teithio ar drên ar ôl datblygu symptomau coronafeirws.

“Teimlo mod i’n cael fy amddifadu”

Mae Margaret Ferrier wedi dweud bod y blaid wedi dweud wrthi’n wreiddiol i ryddhau datganiad ar gyfryngau cymdeithasol cyn dweud wrthi ei bod hi’n colli’r chwip yn ystod ail alwad ar yr un dydd.

“Roedd o oherwydd bod y datganiad wedi mynd allan a bod pethau wedi gwaethygu,” meddai wrth The Scottish Sun.

“Roeddwn yn teimlo mod i’n cael fy amddifadu.”

“Di-hid a does dim modd ei hamddiffyn”

Mae llefarydd ar ran yr SNP wedi dweud:

“Roedd gweithredoedd Margaret Ferrier yn ddi-hid a does dim modd ei hamddiffyn.

“Fe wnaeth yr SNP weithredu’n gyflym a phendant i dynnu’r chwip oddi wrthi a’i gwahardd o’r blaid.

“Ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach tra bod ymchwiliad heddlu’n mynd yn ei flaen a phroses fewnol ar y gweill.”