Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, yn galw eto ar i aelod seneddol yr SNP gamu o’r neilltu am dorri rheolau’r coronafeirws.Teithiodd Margaret Ferrier ar drên rhwng Glasgow a Llundain ar ôl cael symptomau’r coronafeirws, a chafodd hi brawf positif yn ddiweddarach.

Mae’n gwrthod camu o’r neilltu, gan ddweud bod y symptomau wedi achosi “panig” a’i bod hi wedi gwneud y penderfyniad yn ei phanig i deithio 350 o filltiroedd yn ôl i’r Alban o San Steffan.

Cafodd aelod seneddol Rutherglen a Gorllewin Hamilton ei diarddel dros dro gan yr SNP, oedd wedi tynnu’r chwip oddi arni.

‘Annerbyniol’

Wrth siarad ar raglen Sophy Ridge on Sunday, dywed Nicola Sturgeon fod ymddygiad Margaret Ferrier yn “annerbyniol” ac y dylai hi gamu o’r neilltu.

“Allwn i ddim bod yn fwy eglur,” meddai.

“Dylai hi gamu o’r Senedd.

“Roedd y diffyg gallu i farnu wrth deithio cannoedd o filltiroedd gan wybod ei bod hi wedi profi’n bositif ar gyfer Covid-19 mor arwyddocaol a mor annerbyniol nes fy mod yn teimlo nad oes unrhyw gamau derbyniol eraill iddi.

“Dw i wedi darllen ei sylwadau yn y cyfryngau heddiw, ond dw i’n dal i obeithio y bydd hi’n gwneud y peth cywir.

“Bob dydd, mae’n rhaid i fi sefyll a gofyn i bobol ledled y wlad wneud pethau eithriadol o anodd, i beidio ag ymweld ag anwyliaid, a nawr dw i’n gofyn i bobol ddell pam na allan nhw fynd i dafarn neu i fwyty.

“Ac mae’n annerbyniol fod rhywun yn ei sefyllfa hi wedi anwybyddu’r rheolau’n llwyr fel yna ac alla i ddim bod yn fwy eglur am hynny.

“Dydy hi ddim yn dderbyniol a dylai hi ymddiswyddo.”

Beirniadaeth gan gydweithwyr

Yn y Scottish Sun, dywed Margaret Ferrier ei bod hi wedi cael cefnogaeth gan y blaid yn lleol ar ôl “cyfaddef ac ymddiheuro’n daer”.

Ond mae’n dweud iddi gael beirniadaeth chwyrn gan gydweithwyr yn yr SNP.

“Rydych chi’n teimlo eich bod yn cael llawer o feirniadaeth gan bobol roeddech chi’n eu hystyried yn gydweithwyr ac yn ffrindiau a fyddai’n deall mai diffyg gallu i farnu oedd e.

“Dw i ddim yn gwadu hynny.

“Efallai bod pobol yn dweud, ‘Dylet ti fod yn gwybod yn well, rwyt ti’n ffigwr cyhoeddus’.

“Ond ar ddiwedd y dydd, mae’n dal i frifo.

“Rydych chi’n meddwl wedyn am yr holl waith caled ac ymroddiad – ydy hynny jyst yn cael ei olchi i ffwrdd?”