Mae aelod seneddol Llafur yn dweud bod “Cymru’n rhagori ar Loegr” yn y ffordd mae’r llywodraeth wedi mynd ati i geisio trechu’r coronafeirws.

Mae Jonathan Reynolds yn cynrychioli ardal Stalybridge a Hyde ym Manceinion Fwyaf, ardal sydd wedi gweld cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno, ac mae’n llefarydd y blaid ar waith a phensiynau.

Fe fu’n siarad ar raglen Sophy Ridge on Sunday heddiw (dydd Sul, Hydref 11), gan alw am ragor o gymorth ariannol i ardaloedd yn Lloegr lle mae cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno.

“Y peth cyntaf hoffwn ei gofnodi yw lefel y dicter a rhwystredigaeth sy’n bod mewn trefi ac etholaethau fel fy un i o ran y ffordd mae hyn yn digwydd,” meddai.

“Fe fu yna adroddiadau’n cael eu rhyddhau i’r wasg, dim ymgynghoriad ag arweinwyr lleol – nid dyma’r ffordd i wneud pethau.

“Mae pobol yn teimlo fel pe baen nhw’n cael eu trin â dirmyg a heb barch a dydy hynny, yn syml iawn, ddim yn ddigon da.”

Colli rheolaeth

Mae’n cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o “golli rheolaeth”, a bod hynny wedi arwain at gyfyngiadau pellach yn lleol nad oedden nhw’n “anorfod”.

“Ond y peth hollbwysig yw hyn – mae’n rhaid i gyfyniadau pellach ddod â chefnogaeth economaidd,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n dal i fod eisiau i’r Llywodraeth lwyddo.

“Rydyn ni eisiau iddyn nhw ddal gafael yn hyn ond dydyn nhw jyst ddim yn gwneud hynny ar hyn o bryd, a rhan o hynny yw sut mae cytundebau wedi cael eu dosbarthu ar gyfer Profi ac Olrhain.

“Dydyn ni ddim yn agos at le’r hoffen ni fod – draw fynna yng Nghymru, mae’r hyn maen nhw wedi gallu ei wneud hyd yn hyn yn rhagori o bell ffordd ar yr hyn sydd gyda ni yn Lloegr.”

Mae’n dweud ei fod e’n “bryderus” y bydd pobol yn dechrau anwybyddu’r rheolau sydd yn eu lle, ond fod Llafur yn barod i gefnogi cyrffiw 10 o’r gloch ar dafarnau os oes digon o gefnogaeth ariannol ar gael iddyn nhw.