Mae’r Deyrnas Unedig yn bedwerydd yn y byd am achosion newydd o’r coronafeirws ac yr uchaf yn Ewrop, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.
Dim ond India, Yr Unol Daleithiau a Brasil sydd â niferoedd mwy o achosion yn ddiweddar, meddai swyddog iechyd byd-eang.
Dywedodd bod y Deyrnas Unedig wedi adrodd 110,827 o achosion newydd i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yr wythnos ddiwethaf.
“Rydym yn gweld nifer fawr o achosion ar draws y byd, yr wythnos ddiwethaf roedd gan India 504,000 o achosion, yna’r Unol Daleithiau gyda 327,000 ac wedyn Brasil,” meddai Dr Margaret Harris o Sefydliad Iechyd y Byd.
“Ond mae’r Deyrnas Unedig yn bedwerydd a beth rydym yn ei weld, yn enwedig yn Ewrop, yw bod mwy a mwy o wledydd yn gweld newid mwy yn niferoedd yr achosion.”
Wrth drafod sut oedd y Deyrnas Unedig yn cymharu â gwledydd eraill yn Ewrop, dywedodd Dr Margaret Harris: “Fe wnaeth y Deyrnas Unedig adrodd 110,827 i ni’r wythnos ddiwethaf, tra bod Ffrainc wedi adrodd 110,065 – felly rydych chi fwy neu lai ar yr un lefel â Ffrainc ar hyn o bryd.
“Mae Rwsia wedi cofnodi niferoedd mawr, yn ogystal â Sbaen, ond rydym yn gweld cynnydd mewn nifer o wledydd ar draws Ewrop, yn enwedig yn Ffrainc a Sbaen, ond rydym hefyd yn gweld newidiadau yn yr Eidal ac mewn mwy o wledydd yn nwyrain Ewrop.”