Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i bob busnes dydd ei angen.
Dydd Gwener (Hydref 12) cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, y bydd busnesau sy’n gorfod cau oherwydd cyfyngiadau newydd yn gymwys i dderbyn grantiau i dalu hyd at 67% o gyflog y gweithwyr.
Fodd bynnag, yr unig fusnesau sy’n gymwys i hawlio’r grant fydd y rhai sy’n uniongyrchol o dan gyfyngiadau clo.
“Nid yw’r effaith ar fusnes wedi’i gyfyngu i’r ardaloedd hynny y mae’r feirws yn effeithio arnynt fwyaf,” meddai Ben Lake.
“Rwyf wedi cyfarfod â llawer o berchnogion busnes yng Ngheredigion yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn enwedig yn y sector lletygarwch, sydd eisoes yn gallu gweld effaith y cloeon lleol ar eu masnach.”
Galw am “godi cap benthyca Llywodraeth Cymru”
Ychwanegodd Ben Lake: “Er bod y mesurau cymorth diweddaraf yn gwneud rhywfaint i gyfyngu’r niwed i fusnesau, mae llawer o sectorau, gan gynnwys y sector celfyddydau a digwyddiadau, a’r busnesau hynny yn y gadwyn cyflenwi lletygarwch, yn dal i fod mewn sefyllfa ansicr iawn, yn enwedig o ran cyfyngiadau ychwanegol sy’n cael eu hystyried yn awr.”
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud popeth i ddiogelu bywoliaeth.
“Rhaid i hyn gynnwys codi cap benthyca Llywodraeth Cymru fel y gallwn roi mwy o gymorth i fusnesau ac awdurdodau lleol Cymru i helpu ein cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn.”