Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ap mapio i helpu i gynllunio ar gyfer llifogydd.

Mae’r ap yn tynnu ar ddata a gafodd ei gasglu rhwng 2017 a 2019.

Mae mapio llifogydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y diwydiant yswiriant, awdurdodau rheoli risgiau, Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd i warchod mwy na 240,000 o eiddo sy’n wynebu’r perygl o lifogydd yng Nghymru.

Fu yna’r un cynllun tebyg yn y wlad ers 2013, ac roedd angen diweddaru’r wybodaeth er mwyn ymateb i’r ffordd mae’r amgylchedd yn ymateb i dywydd mwy difrifol, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r map yn ystyried lefel afonydd a moroedd, dŵr arwynebol a ffynonellau eraill o ddŵr er mwyn penderfynu a yw lefel y risg yn isel, yn ganolig neu’n uchel, ac mae hefyd yn nodi gwybodaeth am leoliad amddiffynfeydd a’u manteision.

Bydd y data’n cael ei ddefnyddio hefyd i benderfynu pa mor gost effeithiol yw amddiffynfeydd, sut fydd newid hinsawdd a thwf mewn poblogaeth yn cynyddu’r risg o lifogydd ac ymchwilio i sefyllfaoedd posib yn seiliedig ar dywydd eithriadol.

Fe ddaw wrth i Lywodraeth Cymru lansio strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli llifogydd.

‘Gall llifogydd ddistrywio cymunedau’

“Gall llifogydd ddistrywio cymunedau, a dyna pam mae gennym sawl adnodd ar gael i helpu i rybuddio pobl a busnesau Cymru, a rhoi gwybod iddyn nhw pan fydd perygl llifogydd,” meddai Mark Pugh, prif ymgynghorydd dadansoddi perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae ein map perygl llifogydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd i benderfynu faint o berygl sydd o lifogydd, i ddatblygu cynlluniau rheoli llifogydd ac i helpu i benderfynu ar nifer o faterion eraill y gall llifogydd effeithio arnyn nhw.

“Bydd y diweddariad newydd hwn yn gwneud yr adnodd amhrisiadwy hwn hyd yn oed yn fwy cywir, gan olygu fod modd gwarchod ardaloedd ledled Cymru’n well yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol.”