Mae Yes Cymru yn annog pobol i wylio fideo Kelvin McKenzie, cyn-olygydd The Sun, yn awgrymu “rhoi Cymru i Hong Kong” cyn ymuno â’r mudiad.

“Dyma Kelvin. Cyn-olygydd @TheSun. Gwyliwch y fideo. Gwrandewch ar beth sydd ganddo i’w ddweud. Yna, pan chi ‘di cael llond bol, ymunwch â ni,” meddai neges ar dudalen Twitter Yes Cymru.

Fe ddaw ar ôl iddo awgrymu mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol y dylid “rhoi Cymru i Hong Kong”.

Mae’r fideo wedi cael ei drydar gan Kelvin McKenzie ei hun gyda’r pennawd ‘Why I’ve always supported Welsh independence (bolltau i Wales)’.

Mae aelodaeth Yes Cymru wedi cynyddu’n sylweddol yn sgil Brexit ac ymdriniaeth Llywodraeth Prydain o’r coronafeirws, ac mae’r fideo gan Kelvin McKenzie yn sicr o gael effaith ar y gefnogaeth i’r mudiad unwaith eto.

Y fideo

“Y rheswm y cafodd yr M4 ei adeiladu oedd, nid i fynd â phobol i mewn i Gymru, ond i’w cael nhw allan ohoni’n reit handi,” meddai Kelvin McKenzie mewn darn i’r camera.

“Y realiti yw ei bod hi’n anialwch ariannol, ac mae hi wedi bod felly fyth ers i lo beidio â chael ei ddefnyddio er mwyn cynhesu’r tŷ.

“Mae’n foment drist, ond bob tro mae yna berson o Gymru, er mwyn i wasanaethau cyhoeddus weithredu, mae’n rhaid i’r Trysorlys roi rhyw £4,600 y pen iddyn nhw.

“Hebddyn nhw, byddai’r cyfan oll yn cau lawr – byddai’r ysbytai’n cau lawr, byddai’r system fudd-daliadau’n cau lawr, byddai’r lle i gyd yn cau lawr.

“Nawr, mae’r gwrthwyneb yn wir yn Llundain, lle mae bron union yr un swm o arian yn elw.

“Pe baech chi’n cymryd y Deyrnas Unedig i gyd, Lloegr i gyd, £68 fyddai e ar yr ochr anghywir.

“Yn yr Alban, mae’n £4,000 arall.

“Ta waeth, mae’r Cymry newydd gyflawni hunanladdiad masnachol a doedd ganddyn nhw ddim llawer o fasnach yn y lle cyntaf.

“Ond os mai person busnes bach ydych chi sy’n ceisio cadw’ch pen uwchben y dŵr yn yr amserau eithriadol o anodd hyn, dyma’r twpsyn morwrol yna Mark Drakeford – Llafur, cofiwch hynny ar gyfer yr etholiad nesaf, Llafur, Llafur, Llafur – yn dod a dweud pythefnos, dim byd yn digwydd yng Nghymru am bythefnos (doedd dim llawer yn digwydd yng Nghymru o’r blaen!).

“Nawr does dim byd yn digwydd, a’r cyfan fydd yn digwydd yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd pan fo gyda chi gyfnod clo lleol yw eich bod chi’n cicio’r can i lawr y ffordd, ymhen wythnosau mae’n codi eto.

“Maen nhw wedi mynd yn wallgof!

“Dw i eisiau i Gymru fod yn llwyddiannus.”

Syniad mawr

Mae Kelvin McKenzie yn mynd yn ei flaen i ddweud bod ganddo fe “syniad mawr”.

“Gyda’r holl broblemau sydd gan Israel, yr holl broblemau sydd gan Hong Kong, pam na wnawn ni roi Cymru i bobol Hong Kong?” meddai.

“Entrepreneuriaid, hunanddechreuwyr, cael eu busnesau eu hunain.

“Ymhen pump i ddeng mlynedd, bydden nhw hefyd yn gwneud £4,000 y pen yn lle costio £4,000 i ni i gyd.

“Rhowch Gymru i bobol Hong Kong. NAWR!”