Mae tîm lles cymdeithas dai wedi sicrhau £1m o incwm ychwanegol i’w thenantiaid dros y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y tenantiaid wedi elwa ar gymorth budd-dal gan gynnwys credyd cynhwysol, buddion tai a gostyngiadau treth gyngor.
Yn ôl adroddiad Grŵp Cynefin, roedd enillion cymdeithasol o £985,301 ar gyfer 278 o denantiaid.
Ac am bob £1 wariodd y gymdeithas ar y gwasanaeth, roedd enillion cymdeithasol o £14.10 ar y buddsoddiad.
Dywed yr adroddiad hefyd fod y cyllid wedi lleihau pryder a straen, helpu tenantiaid i gael annibyniaeth ac ennyn hyder a sicrhau rhyddhad o ddyled.
Mae ffigurau gan yr elusen dai Shelter yn nodi bod cost colli cartref i landlord yn £8,200 ar gyfartaledd.
‘Mwy na gwasanaeth landlord’
“Fel swyddogion lles rydym yn cynnig mwy na gwasanaeth landlord i’n tenantiaid; rydym wedi ymrwymo i’w helpu,” meddai Meleri Williams, swyddog lles Grŵp Cynefin.
“Dw i’n hynod falch o wneud swydd sy’n fy ngalluogi i fynd y filltir ychwanegol er mwyn helpu’r tenantiaid sy’n wynebu anawsterau gan gadw cyswllt gyda nhw wedyn.
“Mae’n un o’r pethau sy’n gwneud i ni sefyll allan fel cymdeithas dai.
“Dw i’n annog unrhyw un sy’n ei chael hi’n anodd neu sy’n meddwl y gall fod angen cymorth arnyn nhw yn y dyfodol i gysylltu â ni i weld sut y gallwn eich helpu a’ch cefnogi.”
“Dw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi ei wneud hebddyn nhw”
“Derbyniais i help am y tro cyntaf ychydig flynyddoedd yn ôl wedi i mi gael gwaedlyn ar yr ymennydd a roddodd ddiwedd ar fy ngwaith am y tro,” meddai Anthony Poglettke, sydd wedi bod mewn eiddo dan reolaeth Grŵp Cynefin yn Coed-llai, Sir y Fflint ers naw mlynedd.
“Fe wnaeth y tîm fy helpu gyda chostau byw, ceisio am fudd-daliadau a llenwi ffurflenni ar-lein.
“Mae’r tîm cyfan yn wych ac maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â mi yn wythnosol, hyd yn oed trwy neges destun ac e-bost.
“Dw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi ei wneud hebddyn nhw.”