Mae Llywodraeth Ffrainc am roi’r Légion d’Honneur i athro gafodd ei lofruddio gan eithafwr Islamaidd y tu allan i ysgol yr wythnos ddiwethaf.
Daw’r cyhoeddiad wrth i’r awdurdodau gau mosg enwog yng ngogledd Paris fel rhan o’u hymdrechion i darfu ar weithgarwch eithafwyr a grwpiau Islamaidd.
Bydd y mosg yn ardal Pantin ynghau am chwe mis, a hynny ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi postio neges fideo ar Facebook am Samuel Paty ddyddiau’n unig cyn yr ymosodiad.
Roedd y fideo’n beirniadu’r athro Daearyddiaeth am ddangos fideo oedd yn dychanu’r proffwyd Mohammed, gan annog trafodaeth agored yn y dosbarth.
Bydd y Légion d’Honneur yn cael ei dyfarnu wedi ei farwolaeth i Samuel Paty yn ystod seremoni yn Paris yfory (dydd Mercher, Hydref 21).
Cafodd ei drywanu a’i ddienyddio y tu allan i’w ysgol gan ddyn 18 oed o dras Chechen – ei enw, yn ôl adroddiadau, yw Abdullah Anzorov, a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu’n ddiweddarach.