Mae Hywel Williams a Liz Saville Roberts, dau o aelodau seneddol Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw ar Drysorlys y Deyrnas Unedig i gefnogi swyddi’r sector awyr agored drwy gyflwyno pecyn cymorth penodol ochr yn ochr â mesurau rheoli Covid-19.

Maen nhw wedi cyflwyno cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu’r cynllun ffyrlo a darparu cefnogaeth benodol i sectorau sydd wedi dioddef yn sgil y pandemig.

Dywed Hywel Williams a Liz Saville Roberts fod angen darparu cefnogaeth frys i’r sector dwristiaeth, addysg awyr agored, hamdden, lletygarwch a’r celfyddydau er mwyn amddiffyn swyddi dros fisoedd y gaeaf.

“Mae canolfannau addysg awyr agored yn darparu buddion enfawr o ran hybu iechyd corfforol a meddyliol plant, wrth wella cyfleoedd pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored,” meddai Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon.

“Ond, mae eu dibyniaeth ar ymweliadau ysgol a phreswyl am gyfran sylweddol o’u hincwm yn golygu y byddan nhw yn parhau mewn trafferthion tra bydd y rheoliadau iechyd angenrheidiol yn eu lle.

“Galwaf ar frys ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod mesurau iechyd yn cael eu hategu gan gefnogaeth economaidd a bod mesurau wedi’u targedu yn cael eu rhoi ar waith ar frys i helpu’r sectorau hyn trwy fisoedd y gaeaf, gan gynnwys ehangu pellach ar y cynllun ffyrlo.”

‘Hanfodol’

“Er ei bod yn ddealladwy pam ei bod yn anodd i ysgolion drefnu ymweliadau gweithgareddau awyr agored ar hyn o bryd, mae’n hanfodol bod canolfannau yng Ngwynedd ac ar draws Cymru yn barod i weithredu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ailagor,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Maen nhw yn enghraifft benodol o sector sydd wedi’i orfodi i gau i lawr yn ystod yr argyfwng hwn ond heb gael fawr o gefnogaeth gan y llywodraeth.”