Roedd cyfyngiadau pellach yn bwnc llosg yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog brynhawn heddiw (dydd Mawrth, Hydref 20), wrth i’r cyfnod clo dros dro ddod i rym ddiwedd yr wythnos.

Adam Price oedd yr arweinydd cyntaf i holi Mark Drakeford, ac mi ddechreuodd trwy estyn ei gefnogaeth i’r cyfyngiadau pythefnos o hyd.

Aeth ati wedyn i dynnu sylw at gyndynrwydd y Canghellor, Rishi Sunak, i gyflwyno’r ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’ (y system ffyrlo newydd) yn gynt.

“Mae’n anodd credu y byddai’r [Canghellor] mor dyn â choffrau’r Trysorlys pe bai clo dros dro yn Surrey,” meddai.

Llythyron i Rishi Sunak

Trwy gydol y sesiwn, roedd arweinwyr Plaid Cymru a Llafur yn gyfeillgar â’i gilydd, ac roedden nhw yn ddiolchgar am y gefnogaeth i’r ‘clo dros dro’.

Ac wrth drafod cyndynrwydd Rishi Sunak, dywedodd ei fod yn “anodd gweld” pam na fyddai’r canghellor yn fodlon cyflwyno’r ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’ yn gynt.

“Nid yw’n bosib mai cymhelliant ariannol oedd wrth wraidd ei benderfyniad,” meddai.

“Wnaethom ni gytuno fel Llywodraeth Cymru i dalu am y gost £11m ychwanegol i’r Trysorlys o’n hadnoddau ein hunain.”

Wnaeth y Prif Weinidog anfon llythyr at y Canghellor yn galw am CCF cynt, ac mae wedi sgwennu ato eto heddiw yn cynnig ateb arall.

“Rydym ni’n parhau i gynnig datrysiadau, ac mae Llyw DU yn dal ati i’w gwrthod,” meddai. “Dw i’n gobeithio bydd y Canghellor yn cynnig ateb gwahanol yn ei ateb i fy llythyr,” meddai.

Bil y Farchnad Fewnol

Yn ddiweddarach yn y sesiwn, bu arweinwyr Plaid Cymru a Llafur yn rhannu eu teimladau am ‘Fil y Farchnad Fewnol’, ac unwaith eto roedd y ddau yn gwbl gytûn.

Wnaeth y Prif Weinidog bwysleisio goblygiadau’r mesur, a’r gwrthwynebiad iddo, gan dynnu sylw at lythyr yn y Financial Times wedi ei lofnodi gan Archesgob Cymru, John Davies.

Soniodd hefyd am adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi sy’n galw am addasu’r Bil.

Wrth drafod ymateb Llywodraeth Cymru, dywedodd ei bod yn canolbwyntio ar greu gwelliannau i’r Bil.

Mae yna “gyfleoedd seneddol” o hyd er mwyn mynd i’r afael â diffygion y Bil, meddai.

Seland Newydd ac annibyniaeth

Yn ei gwestiwn olaf wnaeth Adam Price dynnu sylw at Seland Newydd, a’i llwyddiannau wrth fynd i’r afael â covid-19 o gymharu â Llywodraeth San Steffan.

Holodd a oedd Mark Drakeford yn gweld yr apêl o fod yn annibynnol o San Steffan – fel Seland Newydd.

Wfftiodd y Prif Weinidog hynny ond cyfaddefodd ei fod yn “edrych ‘mlaen” at y diwrnod pan na fydd Boris Johnson yn Brif Weinidog yn San Steffan.

Dadlau tros ddata

Daeth Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, yn sgil Adam Price, ac roedd tipyn mwy o densiwn rhyngddo fe a’r prif weinidog.

Y cyfnod clo oedd prif destun ei gwestiynau, a dechreuodd trwy ddadlau nad yw’r data “yn cyfiawnhau” cyfnod clo sy’n effeithio pob rhan o Gymru – gan gynnwys ardaloedd llai covid-ddwys.

Dywedodd Mark Drakeford fod modd cyfiawnhau’r cam yn “hawdd iawn”, ac mai’r “gwirionedd sobor” yw y byddai 6,000 yn rhagor yn marw dros y gaeaf oni bai am y cam.

“Faint yn rhagor o ddata sydd angen ar yr Aelod fel ei fod yn barod [i’n] cefnogi?” meddai.

Esboniodd yn ddiweddarach fod yn rhaid i bobol ym mhob rhan o Gymru gymryd rhan am fod angen “ymdrech genedlaethol”.

Ac fe wfftiodd y syniad fod pobol Cymru – gan gynnwys y rheiny mewn ardaloedd llai covid-ddwys – yn wrthwynebus tuag at y cam.

Ategodd fod Paul Davies a’i blaid yn ceisio “tanseilio” yr ‘ymdrech genedlaethol’ “yn barhaus”.

Gorffen ar nodyn hallt

Â’i gwestiwn olaf, fe wnaeth Paul Davies holi o le ddaw’r arian sydd yn y Gronfa Cadernid Economaidd – cyllid £300m a gafodd ei gyhoeddi heddiw i helpu busnesau yng Nghymru.

Holodd hefyd a oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried effaith y clo bach ar Gymru.

Dywedodd y Prif Weinidog fod y cyllid yn dod o “ystod o ffynonellau” – oddi fewn i’r cyllidebau presennol ac o arian trwy Fformiwla Barnett.

“Bydd y camau rydym yn eu cymryd o fydd i fusnesau ar ben arall y cyfnod clo dros dro,” meddai am y cyfyngiadau.

“Bydd yn creu sefyllfa lle fydd modd i fusnesau fasnachu hyd at Nadolig.”

Gorffennodd Mark Drakeford ar nodyn hallt trwy geryddu Paul Davies a’i blaid unwaith eto am beidio â chefnogi’r ‘clo dros dro’.

“Cefnu ar eich cyfrifoldebau yn blaid,” meddai.

“Dyna rydych chi’n ei wneud pan dydych chi ddim yn cefnogi’r camau angenrheidiol … i wneud y peth iawn o bobol Cymru.”

Beth am Blaid Brexit?

Doedd dim cwestiynau gan arweinydd Plaid Brexit yr wythnos hon am fod pob un o aelodau’r blaid wedi troi at bleidiau newydd.

Mae’r cyn-arweinydd Mark Reckless wedi ymuno â ‘Phlaid Diddymu’r Cynulliad [sic]’ ac mae’r gweddill – Caroline Jones, Mandy Jones, a David Rowlands – wedi sefydlu eu plaid eu hunain.

Gan fod ganddyn nhw ddigon o aelodau, mae disgwyl y bydd arweinydd y blaid yma, ‘y Gynghrair Annibynnol tros Ddiwygio’, yn medru holi cwestiynau yn sesiynau holi’r dyfodol.