Mae Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru, yn galw ar Boris Johnson, prif weinidog Prydain, a’i lywodraeth i ddangos “arweinyddiaeth aeddfed, nid rhodres” ar fater cytundeb Brexit.

Daw’r sylwadau mewn datganiad ysgrifenedig yn diweddaru Aelodau o’r Senedd ar gynnydd y trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd a’r berthynas rhyngddyn nhw yn y dyfodol.

Dywed ei fod e wedi gobeithio cael cynnydd “ar ôl saith mis o negodiadau, naw rownd ffurfiol a llawer o ymgysylltu anffurfiol” ac y byddai “cytundeb cynhwysfawr wedi’i negodi, ei lofnodi a’i gytuno”.

“Fodd bynnag, nid wyf mewn sefyllfa o hyd i roi unrhyw sicrwydd i chi beth fydd canlyniadau’r negodiadau, er bod y terfynau amser a bennwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi pasio a’n bod yn nesáu’n gyflym at ddiwedd y cyfnod pontio,” meddai wedyn.

Mae’n dweud y “gellid bod wedi osgoi’r amgylchiadau hyn a grëwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun, yn gyfan gwbl”.

Coronafeirws

Dywed ymhellach fod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod galwadau i ymestyn y cyfnod pontio fel y byddai modd mynd i’r afael â’r coronafeirws cyn bwrw iddi gyda Brexit.

“Yn hytrach, mynnodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn holl abl i ymateb i bandemig COVID a sicrhau canlyniad da i’w negodiadau masnach cyntaf ers dros 40 mlynedd,” meddai.

Mae’n dweud iddo ysgrifennu at Lywodraeth Prydain yn galw am “roi blaenoriaeth i gael cytundeb” gan nad oedd cyfarfod o gyd-bwyllgor y gweinidogion yr wythnos ddiwethaf.

Cytundeb

“Rhaid mai’r flaenoriaeth yw cael cytundeb,” meddai wedyn.

“Mae’r meysydd o wahaniaeth megis pysgodfeydd a chymorth gwladwriaethol yn bwysig, ond nid digon i beryglu cytundeb masnach cynhwysfawr y mae gweddill yr economi gymaint ei angen.

“Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn honni y bydd y Deyrnas Unedig yn ffynnu’n gadarn mewn senario heb gytundeb.

“Bydd ymadael heb gytundeb yn achosi tarfu sylweddol yn y tymor byr ac yn arwain at gostau sylweddol i’r economi yn yr hirdymor.

“Bydd y costau uwch i fusnesau, y rhwystrau ychwanegol i fasnachu yn rhoi’r Deyrnas Unedig dan anfantais sylweddol yn gystadleuol, gan fwrw busnesau ar adeg pan fônt yn dal i ddod i delerau ag effeithiau COVID-19 ar yr economi, ac yn bygwth swyddi a chyflogau nifer o ddinasyddion ar draws Cymru gyfan.

“Mae’n hollbwysig bod unrhyw gytundeb yn diogelu buddiannau economaidd Cymru.

“Yn fy llythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig, galwais arni i sicrhau bod y cytundeb yn sicrhau cyn lleied o rwystrau phosibl i fasnachu.

“Ni fydd gwerth i’r cytundeb ‘dim tariffau, dim cwotâu’ rydym wedi clywed cymaint amdano os ceir rhwystrau sylweddol nad ydynt yn dariffau – megis darpariaethau prin yn ymwneud Rheolau Tarddiad, neu rwystrau technegol rheoleiddiol cyffredinol i fasnachu neu rhwystrau penodol i sectorau – sy’n golygu bod masnachu’n anos ac yn fwy costus i fusnesau yng Nghymru.

“Gan nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fodlon blaenoriaethu anghenion yr economi, os ceir cytundeb, mae’n annhebygol y bydd mor gynhwysfawr ac uchelgeisiol fwriadwyd gan y ddwy ochr ar ddechrau’r broses negodi, ac yn bendant bydd yn bell o’r math o gytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson amdani.

“At hynny, mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig – sy’n cynnwys darpariaethau a fyddai’n torri cyfraith rhyngwladol yn ogystal bygwth y setliad datganoli – yn golygu y bydd yn anos gwneud cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod y ffordd y mae ei gweithrediadau yn tanseilio enw rhyngwladol y Deyrnas Unedig o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac yn ehangach.

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i gredu – mwy na thair blynedd ar ôl yr addewid y byddai negodi cytundeb da gyda’r Undeb Ewropeaidd yn hawdd, a bron i flwyddyn ar ôl i Brif Weinidog presennol y Deyrnas Unedig frolio bod ganddo gytundeb parod (‘oven ready’) – mai bygwth a dwndro yw’r ffyrdd gorau o orfodi’r Undeb Ewropeaidd i gydymffurfio.

“Wrth i’r Deyrnas Unedig barhau i deimlo ergyd argyfwng COVID, yr hyn sydd ei angen ar y wlad nawr yw arweinyddiaeth aeddfed, nid rhodres.”