Ar ôl treulio dros ddegawd yn Aelod o’r Senedd tros Orllewin De Cymru, mae Bethan Sayed yn edrych ’mlaen at fywyd wedi gwleidyddiaeth.
Mi ddaeth yn AoS Plaid Cymru yn 2007, a hithau ond yn ei hugeiniau cynnar, ac yn ystod ei chyfnod yn y Bae mae wedi dod yn adnabyddus am ei hangerdd.
Ym mis Mawrth, mi roddodd enedigaeth i’w mab, Idris, ac yn fuan wedi hynny cyhoeddodd na fyddai’n sefyll etholiad i’r Senedd fis Mai nesa’.