Fe fydd cyfyngiadau llym yn cael eu cyflwyno yn Ne Swydd Efrog.

Daeth cadarnhad o’r cyfyngiadau Haen 3 gan Dan Jarvis, Maer Dinas Ranbarth Sheffield.

Dyma’r lefel uchaf o gyfyngiadau mae modd eu cyflwyno.

Bydd oddeutu 1.4m o bobol yn cael eu heffeithio wrth i’r cyfyngiadau ddod i rym yn ardaloedd Barnsley, Doncaster, Rotherham a Sheffield fore Sadwrn (Hydref 24).