Gallai pobol sy’n torri’r gyfraith o dan ddylanwad alcohol gael eu gorchymyn i wisgo tagiau sobrwydd er mwyn monitro’u gwaharddiad yfed o heddiw (dydd Mercher, Hydref 21).
Bydd y tagiau yn monitro chwys troseddwyr bob 30 munud, gan hysbysu’r gwasanaeth prawf os ydyn nhw wedi yfed alcohol.
Gallai unrhyw un sy’n torri eu gorchymyn ymatal alcohol wynebu dychwelyd i’r llys a derbyn cosb arall megis dirwy, ymestyn y gorchymyn, neu eu dedfrydu i garchar.
Mae 39% o droseddau treisgar yn cynnwys troseddwyr sydd o dan ddylanwad alcohol, ac mae cost gymdeithasol ac economaidd niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn fwy na £21bn y flwyddyn, yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
“Gall y teclyn newydd hwn dorri’r cylchred hunanddinistriol mae troseddwyr ynddo, gan eu helpu i sobri’r rhai sydd eisiau yn ogystal â helpu’r llysoedd i gosbi’r rhai sydd ddim,” meddai’r Gweinidog Troseddau a Phlismona,” Kit Malthouse.
Daw lansiad y cynllun ar ôl dau dreial llwyddiannus yn Llundain, ac yn Swydd Gaerloyw a Gogledd Swydd Efrog.
Roedd troseddwyr yn ddi-alcohol ar 97% o’r diwrnodau y cawson nhw eu monitro, gan ddweud bod y freichled wedi cael effaith bositif ar eu bywydau, lles ac ymddygiad.
“Mae’n galonogol gweld Cymru ar y blaen wrth gyflwyno’r dechnoleg newydd hon yr ydym ni’n credu y bydd yn helpu i leihau cyfraddau aildroseddu, cadw ein strydoedd yn saffach a chefnogi’r rheini sydd angen help.”