Mae gwleidyddion lleol ym Manceinion Fwyaf wedi rhybuddio am “aeaf caled” ar ôl i gyfyngiadau coronafeirws llymach gael eu gorfodi ar yr ardal.
Daw hyn ar ôl i drafodaethau rhwng gweinidogion ac arweinwyr lleol dorri i lawr dros wythnos yn ôl, a dim ond ffracsiwn o’r cyllid roedd gwleidyddion lleol ei eisiau gan y Llywodraeth mae’r prif weinidog Boris Johnson wedi ei gadarnhau.
Cyhuddodd Andy Burnham, Maer Manceinion, y prif weinidog o “chwarae pocer” gyda bywydau pobol pan na ddaeth cytundeb ar arian i gefnogi’r ardal.
Dywedodd fod arweinwyr awdurdodau lleol Manceinion Fwyaf wedi gofyn am £90m i ddechrau, cyn gostwng y swm i £65m.
Ond doedd gweinidogion ddim ond yn fodlon darparu £60m.
Dim ond £22m ddaru Boris Johnson ei gadarnhau i’r ardal mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (dydd Mawrth, Hydref 20), er bod y Gweinidog Iechyd Matt Hancock wedi dweud wrth Dŷ’r Cyffredin bod y £60m “yn dal i fod ar gael.”
“Mae ein drws yn agored i drafodaethau pellach ynghylch cefnogaeth gydag arweinwyr lleol dros y diwrnodau nesaf,” meddai.
“Sut allwn ni gario’r cyhoedd gyda ni drwy’r pandemig os ydym yn eu gorfodi i golli incwm, ei gweithle, hen eu cefnogi?” meddai Andy Burnham.
Y cyfyngiadau
Mae Boris Johnson wedi cadarnhau y bydd tafarndai nad ydyn nhw’n gweini bwyd, bwcis ac ardaloedd chwarae ymysg y busnesau fydd yn gorfod cau am o leiaf 28 diwrnod o Hydref 23.
“Rydym wedi ceisio cynnal trafodaethau gydag arweinwyr lleol ym Manceinion Fwyaf dros y 10 diwrnod diwethaf,” meddai.
“Yn anffodus, ni chafodd cytundeb ei gwblhau.”
Bydd cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno yn Bolton, Bury, Manceinion, Oldham, Rochdale, Salford, Stockport, Tameside, Trafford a Wigan.