Os yw buddugoliaeth ysgubol Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd, yn yr etholiad diweddar yn dangos unrhyw beth, mae’n dangos bod pobl yn ysu am gael gwleidyddion mwy dymunol a  gwleidyddiaeth fwy caredig.

Mae’n dangos bod pobl Seland Newydd, o leiaf, wedi cael llond bol ar y rhethreg hyll, yr ymffrost wag, y bychanu a’r sarhau, y celwydd a’r twyll sydd wedi sgubo drwy wleidyddiaeth cynifer o wledydd y byd dros y blynyddoedd diwethaf.