Mae rhagor o wledydd a thiriogaethau wedi cael eu hategu at – a’u tynnu oddi ar – ‘restr cwarantin’ Llywodraeth Cymru.

Bellach mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd rhaid i deithwyr sy’n dychwelyd o’r Eidal, Gwladwriaeth Dinas y Fatican a San Marino dreulio pythefnos yn hunan ynysu.

Ochr yn ochr â hyn mae ynys Crete wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr, sy’n golygu na fydd angen i deithwyr o’r ynys Roegaidd hunanynysu ar ôl cyrraedd Cymru.

Bydd y rheolau hyn yn dod i rym am 04.00 fore Sul (Hydref 18).