Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu llythyr at Brif Weinidog Cymru yn gofyn am eglurhad am ei benderfyniad i gyflwyno gwaharddiad teithio yng Nghymru.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, mae peryg i’r gwaharddiad achosi “ymraniad a dryswch”.

Daw hyn wedi i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyhoeddi bydd pobol o ardaloedd sydd â lefelau uchel o Covid – ledled Deyrnas Unedig – yn cael eu gwahardd rhag teithio i Gymru.

“Rwy’n dal i boeni y gallai’r dull hwn, heb eglurhad cyflym, achosi ymraniad a dryswch yng Nghymru”, meddai Simon Hart yn y llythyr.

“Mae’r ddau ohonom yn gwybod, mewn gwirionedd, bod cymunedau yng Nghymru wedi eu taro yn wael gan Covid-19 cymaint â chymunedau yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Mae eich sylw diweddar fod pobol sy’n byw yng ngorllewin Cymru yn chwilio am bobol na ddylent fod yn yr ardaloedd hynny yn enghraifft o’r union sefyllfa y dylem fod yn ceisio ei hosgoi.”

Gofynnodd Simon Hart hefyd am eglurhad cyfreithiol, sut bydd y gwaharddiad yn cael ei blismona, ac a fyddai myfyrwyr prifysgol yn cael teithio adref.

Mae arweinydd Ty’r Cyffredin Jacob Rees-Mogg hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan ddweud bod y gwaharddiad yn “anghyfansoddiadol”.