Bydd pobol o ardaloedd sydd â lefelau uchel o Covid – ledled Deyrnas Unedig – yn cael eu gwahardd rhag teithio i Gymru.

Daw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn sgil ymdrech ofer i argyhoeddi Llywodraeth San Steffan i gyflwyno cyfyngiadau teithio yn Lloegr.

Dan y drefn newydd fydd pobol o ardaloedd ag lefelau uchel o coronafeirws yn Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, ddim yn medru teithio i Gymru.

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd y cam yn rhwystro lledaeniad y feirws y Gymru. Mi fydd y rheol newydd yn dod i rym am 6 yr hwyr ddydd Gwener.

“Cadw Cymru’n ddiogel”

Wrth gyhoeddi’r cam mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud ei fod yn “benderfynol o gadw Cymru’n ddiogel”.

“Mae tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd yn awgrymu bod y coronafeirws yn symud o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws Cymru,” meddai.

“Yn gyffredinol, mae’n crynhoi mewn ardaloedd trefol ac yna’n lledaenu i ardaloedd llai poblog oherwydd bod pobl yn teithio.

“Mae rhan helaeth o Gymru bellach o dan gyfyngiadau lleol oherwydd cynnydd yn lefelau’r feirws, ac nid yw trigolion yr ardaloedd hynny yn cael teithio y tu hwnt i ffiniau eu siroedd heb esgus rhesymol.

“Nod hyn yw atal heintiau rhag lledaenu yng Nghymru ac i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni’n paratoi i gymryd y camau hyn i atal pobl sy’n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig lle mae cyfraddau heintio Covid yn uwch rhag teithio i Gymru a dod â’r feirws gyda nhw.”

Wythnosau o densiwn

Daw’r cam yn sgil cyfnod o densiwn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, ac mae’r cam yn siŵr o ddyfnhau’r anghydfod.

Mae pobol sydd mewn ardaloedd clo yng Nghymru eisoes yn wynebu rheolau sy’n eu rhwystro rhag gadael eu siroedd – neu mewn rhai ardaloedd, eu tref neu ddinas.

Ond dyw hynny ddim yn wir am lefydd dan glo yn Lloegr, ac mae yna bryder bod pobol yn heidio o’r ardaloedd yma i rannau o Gymru sydd heb fod dan glo.

Ar ddechrau’r mis mi alwodd Mark Drakeford ar i Lywodraeth y DU gyflwyno cyfyngiadau teithio mewn ardaloedd sydd dan glo yn Lloegr.

Ond mi wnaeth Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, wrthod hynny; ac felly ar ddechrau’r wythnos hon mi anfonodd Prif Weinidog Cymru lythyr yn atseinio’r galw am gyfyngiadau yn Lloegr.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford nad yw’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi ymateb i’w geisiadau ac felly ei fod “wedi gofyn am gyflwyno’r gwaith angenrheidiol, a fyddai’n caniatáu i bwerau datganoledig gael eu defnyddio i atal pobl rhag teithio i Gymru o ardaloedd lle mae llawer o achosion o’r Deyrnas Unedig”.

Sturgeon yn gefnogol

Dywedodd Mr Drakeford ei bod yn “bwysig” pwysleisio nad oedd yn fater o ran y ffin rhwng Cymru a Lloegr ond yn “fater o degwch”.

“Rydym eisoes wedi clywed gan Brif Weinidog yr Alban ac mae hi’n awyddus i gefnogi’r hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud yma. Nawr yw’r amser i’r Prif Weinidog wneud yr un peth,” dywedodd Mr Drakeford wrth y Senedd.

“Os nad yw’n fodlon gwneud hynny yna’r amserlen yw i ni ddefnyddio’r pwerau yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos.”

Ymateb Plaid Cymru: “Gwers” i Lywodraeth Cymru

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi croesawu’r cam ac wedi dadlau bod y profiad yn dangos na ddylid dibynnu’n ormodol ar San Steffan.

“Daw’r cyhoeddiad yma’n hwyrach nag oedd angen, ond dw i’n falch bod Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cymryd y cam angenrheidiol yma i amddiffyn pobol Cymru,” meddai

“Yn awr mae angen amserlen glir arnom yn nodi pryd yn union bydd y ddeddfwriaeth ddrafft yn barod i’w chyhoeddi, pryd a sut y bydd yn dod i rym, a sut y bydd llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yn cael gwybod am hyn.

“Bydd hanner tymor yn dechrau i lawer o bobol yn Lloegr wythnos nesa’, ac yn awr mae’r amseriad yn hollbwysig.

“Mae hyn i gyd yn wers i Lywodraeth Cymru. Gawn ni ddim yr atebion yr ydym ni eu hangen trwy ohebu â Downing Street. Dylwn fod wedi dysgu’r gwersi o’r don gyntaf: dyw dibynnu ar San Steffan ddim yn gweithio i Gymru.”

Ymateb y Ceidwadwyr: “Ymddwyn yn fyrbwyll”

Tra bod ei Weinidog Cysgol dros Iechyd, Andrew RT Davies, yn brysur yn ymateb ar Twitter (isod), mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, wedi dweud y dylid “gwrthdroi’r gwaharddiad yn syth” os na ddaw tystiolaeth i gyfiawnhau’r cam.

“Mae Prif Weinidog Cymru a’i Lywodraeth wedi ymddwyn yn fyrbwyll a heb ystyried ystod o ffactorau eraill cyn dod i’r penderfyniad o gyflwyno gwaharddiad,” meddai Paul Davies.

“Ochr yn ochr â hynny mae’n ymddangos fel ei bod nhw’n anwybyddu’r ffaith bod cyfraddau yn gysylltiedig â theithio wedi cyrraedd eu hanterth ym mis Awst a mis Medi.

“Rhaid i’r Prif Weinidog esbonio pam ei fod wedi ymddwyn yn y fath modd, a pha dystiolaeth sydd ganddo ef a’i weinidogion i gyfiawnhau gwaharddiad – rhaid gwneud hynny ac yna’i chyhoeddi fel bod modd craffu arni.”