Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, wedi dweud ei fod yn benderfynol o osgoi cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol, gan annog arweinwyr lleol yng ngogledd Lloegr i dderbyn cyfyngiadau coronafeirws llymach.
Fodd bynnag, mae Arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, wedi galw am gyflwyno ‘torrwr cylched’ (circuit breaker) mewn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog.
Dywedodd y byddai hynny’n helpu i gadw’r feirws o dan reolaeth.
Byddai cyflwyno ‘torrwr cylched’ yn golygu bod unigolion yn gorfod torri cyswllt gyda phobol y tu allan i’w cartref.
Daeth system tair haen y Prif Weinidog i mewn i rym yn Lloegr heddiw (Hydref 14), ond ardal Lerpwl yw’r unig ardal sydd o dan y rheolau llymaf.
Mae disgwyl i swyddogion iechyd y Llywodraeth drafod gyda chynghorwyr ym Manceinion Fwyaf a Swydd Gaerhifyn (Lancashire) er mwyn nodi’r ardaloedd yn y categori “uchel iawn.”
Dywedodd Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, bod y system yn “ddiffygiol” ac “na fyddwn yn ei dderbyn.”
Ond yn Swydd Gaerhifyn, dywedodd arweinydd Ceidwadol y Cyngor, Geoff Driver, ei bod hi’n anochel y byddai’r ardal yn dod o dan gyfyngiadau llymach.
Daw’r ffrae ar ôl i’r gwyddonwyr sy’n cynghori’r Llywodraeth awgrymu y gallai miloedd o farwolaethau gael eu hatal wrth gyflwyno cloi mawr byr dros hanner tymor.
Maen nhw’n dadlau y byddai hyn yn caniatáu amser i Weinidogion wneud gwelliannau i’r system profi ac olrhain.
Boris Johnson yn “gwrthod y cyngor”
Yn y sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog, awgrymodd Syr Keir Starmer fod methiant Boris Johnson i ddilyn y cyngor gwyddonol wedi costio bywydau.
Dywedodd bod y “cyfradd heintiau bedair gwaith yn uwch, a nifer y bobol sy’n mynychu’r ysbyty wedi codi o 275 y dydd i 628 y dydd yn Lloegr” ers i’r panel ymgynghori gwyddonol Sage roi cyngor i’r Llywodraeth ar Fedi 21.
“Dyna yw cost gwrthod y cyngor,” meddai.
Amddiffynnodd Boris Johnson bolisi’r Llywodraeth gan ddweud mai’r “holl bwynt ydi cymryd y cyfle nawr ac osgoi cyfyngiadau cenedlaethol wrth ddarparu datrysiad yn lleol.”
Y sefyllfa yng ngweddill y Deyrnas Unedig
Mae Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi y bydd tafarndai a bwytai yn cau am bedair wythnos, ac eithrio bwytai take away neu sy’n dosbarthu bwyd.
Bydd ysgolion yn cau ddydd Llun (Hydref 19) am bythefnos, gan gynnwys wythnos hanner tymor.
“Nid ar chwarae bach yr ydym yn cymryd y cam hwn,” meddai’r Prif Weinidog Arlene Foster.
Yng Nghymru, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn “trafod ac yn paratoi” at gyflwyno ‘torrwr cylched’.
Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi cynghori yn erbyn teithio i ardaloedd risg uchel yn Lloegr.
Mae gwyddonydd sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fesurau coronafeirws wedi dweud bod “dim angen bod yn wyddonwyr roced” i wybod bod cloi mawr arall ar y gorwel os nad yw graddfa R Lloegr yn gostwng.