Mae gwyddonydd sy’n cynghori Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fesurau coronafeirws wedi dweud bod “dim angen bod yn wyddonwr roced” i wybod bod cloi mawr arall ar y gorwel os nad yw cyfradd-R Lloegr yn gostwng.

Dywedodd yr Athro Graham Medley, sydd wedi bod yn modelu effeithlonrwydd cyflwyno ‘torrwr cylched’ (circuit breaker) am bythefnos: “Beth rydym wedi ei weld hyd yma yw bod y rhif R wedi bod yn uwch nag un bron ymhobman yn y Deyrnas Unedig sy’n golygu bod nifer yr achosion yn codi.

“Hyd yn oed mewn llefydd sydd â rhifau isel ar hyn o bryd, maen nhw’n codi.”

“Does dim angen bod yn wyddonwyr roced i edrych ar hynny a sylweddoli lle mae pethau’n mynd, fel mae Cymru wedi ei wneud, gyda’r mwyafrif o bobol yn byw o dan gyfyngiadau mwy llym.”

Dywedodd bod hyn yn oed prif swyddog meddygol Lloegr Chris Whitty wedi rhybuddio nad yw’n credu bod haen Lefel 3 y Llywodraeth yn ddigon i leihau lledaeniad y feirws.

Dywedodd y gallai torrwr cylched osgoi’r angen am orfod cyflwyno cyfyngiadau argyfwng heb eu cynllunio.