Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno cyfyngiadau llym am gyfnod byr o amser i fynd i’r afael â chynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Bellach, mae dros 100 o achosion ymhob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru.
Dywed Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod y Llywodraeth yn ystyried cyflwyno’r hyn sy’n cael ei alw’n circuit-breaker yn ystod gwyliau hanner tymor.
“Mae llawer o bobol yn pwyntio at hanner tymor yr ysgol fel ffordd bosibl o gyflwyno seibiant pe baem angen gwneud hynny,” meddai wrth raglen BBC Breakfast fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 14).
“Mae’n ffordd bosibl ymlaen rydym yn ei hystyried a dros yr ychydig ddyddiau nesaf, bydd angen i ni wneud rhai dewisiadau ynghylch a ydyn ni’n mynd i wneud hynny ai peidio.
“Bydd yr ychydig ddyddiau nesaf yn bwysig iawn ond rydyn ni’n parhau i dderbyn cyngor penodol sut fyddai hyn yn edrych yng Nghymru.”
Galw am gyfarfod COBRA i drafod
Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi galw am drafodaeth ar draws y Deyrnas Unedig ar ddefnyddio cyfyngiadau dros dro (circuit-breaker) er mwyn atal ymlediad y feirws.
“Rydw i’n credu bod angen i ni gael cyfarfod COBRA er mwyn trafod ai cyfnod circuit-breaker fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol i ni fynd i’r afael â’r feirws,” meddai wrth Sky News.
“Yn sicr yma yng Nghymru, rydym ni’n cynllunio’n fanwl rhag ofn mai dyna’r dull fyddwn ni’n ei gyflwyno.
“Mae angen i ni wybod beth fydd y mesurau fydd yn eu lle yn ystod cyfnod circuit-breaker, pa mor hir y bydd yn para, sut fydd ysgolion yn cael eu trin, a sut fyddwn ni’n gadael ar ddiwedd y cyfnod.
“Byddai cyfarfod Cobra i drafod hyn yn synhwyrol yn fy marn i.”
Gweddill y Deyrnas Unedig
Bydd cyfyngiadau llym (circuit-breaker) yn dod i rym yng Ngogledd Iwerddon ddydd Gwener (Hydref 16) am bedair wythnos.
Golyga hyn fod yr hanner tymor wedi ei ymestyn yno, a bydd rhaid i dafarndai a bwytai gau eu drysau.
Mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi system dair haen newydd yn Lloegr, ond mae e wedi dweud na fydd cyfyngiadau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno.
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 12:15 heddiw i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa coronafeirws yma.