Mae Mark Isherwood, llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod newidiadau i’r Bil Rhentu Tai yn gwarchod landlordiaid yn ogystal â thenantiaid.
Dywed ei fod yn cefnogi egwyddorion y Bil ond fod “angen dod o hyd i gydbwysedd er mwyn gwarchod y ddwy ochr yn y trefniadau hyn”.
“Mae’r mwyafrif yn unigolion sy’n rhentu un neu ddau o dai allan,” meddai.
“Mae nifer o’r rhain yn dibynnu ar yr incwm yna er mwyn byw o ddydd i ddydd neu i ddarparu pensiwn.
“Byddai unrhyw weithredoedd sy’n gwthio landlordiaid da o’r sector tai yn niweidiol i denantiaid yn y tymor hir.”
Pedwar gwelliant
“Byddwn yn cefnogi egwyddorion y Bil i geisio darparu mwy o sicrwydd i bobol sy’n rhentu tai yng Nghymru,” meddai wedyn.
“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod gofidion landlordiaid am effaith y diwygiadau ar eu gallu i warchod eu hincwm, cael gwared ar denantiaid drwg a sicrhau eu bod yn gallu meddiannu’r tŷ mewn amgylchiadau eithafol.”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am bedwar gwelliant i’r Bil.
“Er mwyn gwneud y Bil hwn yn ymarferol, mae angen cynnwys pedwar sail gorfodol i feddiannu – pan fo’r landlord yn bwriadu gwerthu’r tŷ, symud i mewn i’r tŷ, neu symud aelod o’r teulu i’r tŷ a phan fo angen i fenthyciwr morgeisi feddiannu’r tŷ.”