Am yr ail dro, mae Boris Johnson wedi gwrthod cais gan Brif Weinidog Cymru am waharddiad teithio yn Lloegr.
Anfonodd Mark Drakeford lythyr at brif weinidog y Deyrnas Unedig yn galw arno i rwystro pobol mewn llefydd dan glo rhag gadael yr ardaloedd rheiny.
Mae pobol sydd mewn ardaloedd clo yng Nghymru eisoes yn wynebu rheolau sy’n eu rhwystro rhag gadael eu siroedd – neu mewn rhai ardaloedd, eu tref neu ddinas.
Ond dyw hynny ddim yn wir am lefydd dan glo yn Lloegr, ac mae yna bryder bod pobol yn heidio o’r ardaloedd yma i rannau o Gymru sydd heb fod dan glo.
“Does dim ffiniau ffisegol rhwng Cymru a Lloegr,” meddai llefarydd ar ran Boris Johnson, yn ôl adroddiad BBC.
Beth nesa’?
Mae yna ansicrwydd yn awr ynghylch camau nesaf Llywodraeth Cymru.
Mae adroddiad y Gorfforaeth yn nodi y bydd y mater yn destun trafodaeth cabinet, ond does dim eglurder ynghylch pryd y bydd datblygiad pellach.
Gan fod Cymru eisoes yn meddu ar y pwerau i rwystro ymwelwyr o ardaloedd sydd dan glo yn Lloegr rhag teithio dros y ffin, mae Plaid Cymru yn credu y dylai’r Llywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad.
Mae darn diweddar gan The Spectator yn rhoi cip ar yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni o ran y mater yma.
Mae’n dweud bod yna “ofn go iawn yn Whitehall”, ac y gallai Boris Johnson ildio yn y pendraw pe bai Llywodraeth Cymru yn dyfalbarhau.