Me cyfyngiadau coronafeirws llym Gogledd Iwerddon, sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Hydref 14) yn cynnwys cau ysgolion, tafarnau a bwytai.

Bydd tafarnau a bwytai, heblaw am lefydd byrfwydydd parod a llefydd sy’n gallu dylifro, ynghau am bedair wythnos.

Bydd siopau alcohol trwyddedig yn gorfod cau am 8 o’r gloch.

Bydd ysgolion yn cau am bythefnos o ddydd Llun (Hydref 19), ond bydd un o’r wythnosau hynny’n hanner tymor.

Bydd siopau’n aros ar agor, yn ogystal â champfeydd ar gyfer ymarferion unigol, ond fydd dim gweithgareddau chwaraeon dan do. Athletwyr élit yn unig fydd yn cael gwneud chwaraeon cyswllt.

Bydd eglwysi hefyd yn aros ar agor, gyda therfyn o 25 o bobol yn cael mynd i briodasau ac angladdau, ond fydd dim modd cynnal brecwast priodas.

Mae pobol yn cael eu cynghori i weithio o gartref os oes modd, a ddylai neb deithio oni bai bod rhaid.

Ond nid cyfnod clo cenedlaethol mo’r cyfyngiadau hyn.

‘Pryder difrifol’

Daw’r cyfyngiadau yn dilyn yr hyn mae Arlene Foster, prif weinidog Gogledd Iwerddon, yn ei alw’n “bryder difrifol” wrth i nifer yr achosion coronafeirws barhau i godi’n sylweddol.

“Rydym yn llwyr werthfawrogi y bydd hyn yn newyddion anodd a phryderus i lawer o bobol,” meddai yn Stormont.

“Mae’r pwyllgor gwaith wedi gwneud y penderfyniad hwn oherwydd ei fod yn angenrheidiol, ac fe wnaethon ni drafod yr effaith yn fanwl.

“Nid ar chwarae bach rydyn ni’n cymryd y cam hwn.”

Dywed ei bod hi a’r pwyllgor gwaith yn gobeithio gostwng cyfraddau’r heintiadau a dychwelyd i’r neges fod rhaid cadw pellter cymdeithasol.

Dywed fod y ddau gam hyn yn “allweddol bwysig”, ond na fydd y cyfnod clo yn para mwy na phedair wythnos.

Cyfyngiadau presennol

Tra bod cyfyngiadau newydd wedi’u cyflwyno, mae’r cyfyngiadau oedd eisoes mewn grym yn parhau.

Mae’r rhain yn cynnwys peidio â chymysgu â phobol o aelwyd arall dan do, ac eithrio lle mae aelwydydd estynedig wedi cael eu ffurfio.

Fydd dim mwy na chwech o bobol o uchafswm o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod mewn gardd breifat.

Bydd y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau hyn yn dod i rym ddydd Gwener (Hydref 16).

Ffigurau’r feirws

Cafodd saith o farwolaethau ac 863 o achosion newydd eu cyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Hydref 13).

Fe fu oddeutu 6,286 o achosion yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n mynd â’r cyfanswm ers dechrau’r ymlediad i 21,898.

Ddoe, roedd 150 o gleifion coronafeirws yn yr ysbyty, a 23 ohonyn nhw mewn unedau gofal dwys.

Yn Derry a Strabane mae’r gyfradd uchaf o heintiadau, gyda chyfartaledd dros yr wythnos o 970 ym mhob 100,000 o bobol, ac mae cyfyngiadau lleol eisoes mewn grym yno.