Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi wfftio cyhuddiadau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dal gwybodaeth yn ôl oddi wrth y gwledydd datganoledig ar drafodaethau masnach yr Undeb Ewropeaidd.
“Yfory yw’r diwrnod y mae’r Prif Weinidog wedi’i bennu ar gyfer ei ddyddiad cau ar gyfer cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd”, meddai David Linden, Aelod Seneddol yr SNP.
“Hyd yn hyn, mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi’u gadael allan o’r trafodaethau neu wedi’u cadw yn y tywyllwch yn fwriadol ar fanylion.
“A yw [Simon Hart] yn credu bod dal gwybodaeth a manylion allweddol yn ôl fel hyn yn dangos parch ac amarch tuag at y gweinyddiaethau datganoledig? ”
Daw hyn ar ôl i Arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, Liz Saville-Roberts, gyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o beidio rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru.
Ymateb Simon Hart
“Dydw i ddim yn cydnabod y cyhuddiad y mae [David Linden] yn ei wneud o ystyried nifer y cyfarfodydd yr wyf yn bersonol wedi bod ynddynt gyda gweinidogion o’r gwledydd datganoledig, heb sôn am gydweithwyr eraill”, meddai Simon Hart mewn ymateb i David Linden.
“Mae’n anodd awgrymu nad ydy nhw wedi ymwneud â’r broses o’r dechrau ac rwy’n amau bod ei sylwadau’n seiliedig ar y ffaith nad yw’n hoffi realiti’r hyn sy’n digwydd, yn hytrach na bod â sylw dilys i’w wneud.”