Mae Archdderwydd Cymru yn pwyso ar Brifysgol Bangor i gadw “pwerdy arloesol” sy’n “hyrwyddo’r syniad o weithle Cymraeg naturiol”.
Dyna ddisgrifiad Myrddin ap Dafydd o Ganolfan Bedwyr, yr uned iaith ym Mangor sy’n arbenigo ar ddarparu ymchwil, cyrsiau a pholisïau ar sawl agwedd ar yr iaith Gymraeg ers 1996.
Y ganolfan fu’n gyfrifol am sicrhau fod rheolwyr y coleg yn cadw at ei Gynllun Iaith, ac yn ddiweddarach at y Safonau Iaith sy’n sicrhau gwasanaethau Cymraeg a’r cyfle i’r staff ddefnyddio eu Cymraeg.
Cyfarwyddwr y ganolfan yw Dr Llion Jones, y Prifardd sy’n adnabyddus am gynganeddu yn gyson ar Twitter.
Yn ôl eu gwefan, mae 31 o bobol yn gweithio yng Nghanolfan Bedwyr.
Ac yn fras, mae’r ganolfan yn ceisio ehangu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg o fewn Prifysgol Bangor, a hefyd yn ceisio hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas a thu hwnt.
Ystyried symud staff Canolfan Bedwyr
Ond mae wedi dod i’r amlwg bod y brifysgol yn ystyried symud “rhai o swyddogaethau” Canolfan Bedwyr er mwyn “ehangu capasiti ymchwil”.
Gallai staff y ganolfan sy’n gyfrifol am wella Cymraeg athrawon, a staff sy’n gyfrifol am ddatblygu technoleg a meddalwedd Cymraeg, gael eu symud.
Yr ofn ymysg caredigion yr iaith yw y byddai gwanhau’r ganolfan yn golygu llai o graffu ar benderfyniadau’r brifysgol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
Mae Prifysgol Bangor dan bwysau mawr i arbed miliynau o bunnau, oherwydd cwymp yn nifer y myfyrwyr tramor sy’n mynd yno i astudio, ac oherwydd y glec yn sgil y covid.
“Eithriadol o ddig a siomedig”
Ond wrth i’r rheolwyr chwilio am arbedion, mae Myrddin ap Dafydd yn erfyn arnyn nhw i beidio rhoi’r farwol i Ganolfan Bedwyr.
Dywedodd yr Archdderwydd wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn “eithriadol o ddig a siomedig gydag awdurdodau Coleg Prifysgol Bangor am fygwth Canolfan Bedwyr.
“Ym Mangor, mae Canolfan Bedwyr yn bwerdy mewnol cwbl arloesol ar gyfer y dasg o Gymreigio’r Brifysgol a hyrwyddo’r syniad o weithle Cymraeg naturiol yng nghyd-destun addysg uwch.
“Gyda’i bwyslais ar hyfforddi staff, darparu adnoddau ymarferol a thechnolegol ynghyd â chydlynu polisi, dyma fodel rhyfeddol o lwyddiannus sydd bellach wedi’i fabwysiadu gan sefydliadau addysg uwch eraill yng Nghymru… dyma weledigaeth sy’n ymestyn ymhell bell y tu hwnt i’r Brifysgol ei hunan.
“Dyma i ni hefyd ganolfan genedlaethol o fri ar gyfer hyrwyddo defnydd proffesiynol o’r Gymraeg mewn gweithleoedd dirifedi ar hyd a lled Cymru, gweithleoedd sy’n ymestyn o fyd addysg, iechyd, y gwasanaethau argyfwng, a gweinyddu cyhoeddus i faes y Gyfraith.
“Cyfraniad arall Canolfan Bedwyr yw arolygu Polisi Iaith Prifysgol Bangor mewn modd sydd wedi gwreiddio’r Gymraeg yn gynyddol yng ngweithdrefnau’r sefydliad.
“Ac edrych ar waith Canolfan Bedwyr yn ei gyfanrwydd, dim ond glastwreiddio all ddigwydd wrth chwalu’r adnoddau a’r doniau hyn ar draws gwahanol adrannau o’r Brifysgol.”
Mae’r Archdderwydd yn galw yn gyhoeddus ar Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Iwan Davies, sy’n fargyfreithiwr ac yn rhugl ei Gymraeg, i ddweud yn blwmp ac yn blaen fod y ganolfan yn ddiogel.
“Gan fod Canolfan Bedwyr yn gwasanaethu’r genedl gyfan, mae’n anodd credu bod awdurdodau Prifysgol Bangor mor ddall ac anwybodus fel eu bod o ddifri am friwsioni sefydliad sydd mor hanfodol i adfer y Gymraeg yng Nghymru. Yr hyn sydd ei angen ar fyrder gan bobl fel fi sydd y tu allan i’r Brifysgol, ydi sicrwydd gan yr Is-ganghellor y bydd y gefnogaeth i’r Ganolfan yn parhau a bod ymroddiad i weithredu’n gadarnhaol i ddiogelu’r uned hon at y dyfodol.”
Dim cynlluniau i gau’r Ganolfan
Ond er bod cefnogwyr y ganolfan yn ofni am ei heinioes, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi datganiad yn dweud “n[a]d oes cynlluniau i gau Canolfan Bedwyr”.
Cadarnhaodd y coleg fod “cynnig i drosglwyddo rhai o swyddogaethau Canolfan Bedwyr i’r Gwasanaethau Corfforaethol.
“Mae argymhelliad hefyd i symud rhai o weithgareddau’r ganolfan i’r maes academaidd er mwyn ehangu capasiti ymchwil a datblygu ymhellach.
“Bydd Canolfan Bedwyr yn parhau i chwarae rhan strategol allweddol wrth ddatblygu’r iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.”
- Erthygl o Golwg+ yw hon – mae hon wedi’i rhoi am ddim, ond i weld llawer mwy o erthyglau tebyg tanysgrifiwch.