Y  llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Y Dial gan Jon Gower. Rydw i wedi bod yn aros am hwn ers gorffen Y Düwch, ac mi fues i’n ffodus i gael copi wedi ei anfon i mi i’w adolygu. Dw i tua hanner ffordd trwyddo fe, a hyd yma mae’n llyfr perffaith i’w ddarllen nawr fod y nosweithiau yn dechrau cau amdanom ni – tywyll, atmosfferig a gafaeladwy.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd