Mae Aled Hall yn ganwr opera o fri, yn aelod amlwg o Dri Tenor Cymru, ond yn ddiweddar mae wedi bod yn cael ei ganmol am rywbeth heblaw ei lais canu cyhyrog.

Yn ystod y cyfnod clo mae’r canwr wedi bod yn tynnu lluniau o gefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac mae ei ffotograffiaeth wedi denu ffans ar Twitter.

Ond fel cerddor y gwnaeth ei enw yn y lle cyntaf.