Roedd Mark Drakeford yn destun beirniadaeth, dychan, a rhywfaint o ganmoliaeth yr wythnos hon, wrth iddo ddangos ei ddannedd i Boris Johnson.

Ar hyn o bryd mae rhannau helaeth o Gymru a Lloegr dan glo, ond mae yna wahaniaethau amlwg yn y rheolau yn y ddwy wlad.

Does dim modd i bobol Cymru adael eu hardaloedd os ydyn nhw dan glo, ond mae pobol sydd dan glo yn Lloegr yn rhydd i deithio lle bynnag y mynnant – gan gynnwys rhannau o’r wlad hon, er y cânt eu cynghori i beidio gwneud hynny.