Y peth mwyaf positif fedrwn i ddweud am yr ornest rhwng Iwerddon a Chymru ddydd Sul oedd fy mod i wedi gweld gemau gwaeth. Ond pan wnaeth rhywun ofyn i fi eu rhestru nhw, doeddwn i ddim yn gallu. Dyna’r peth am gemau sydd ddim yn gofiadwy – ti’n anghofio nhw!