Hyd yn hyn, mae’r drafodaeth am chwalu’r Deyrnas Unedig wedi bod ynghylch yr Alban, Ulster yn ailymuno ag Iwerddon ac, efallai, Cymru’n gwrthryfela hefyd.

O edrych ar ddigwyddiadau’r dyddiau diwetha’, efallai ein bod ni’n edrych i’r cyfeiriad anghywir. Os rhywbeth, mae’r teimladau gwrth-Lundeinig yn gryfach yng ngogledd Lloegr nag yn unman arall.