Roedd cynnydd o ryw 324% rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf yn nifer y bobol fu’n aros dros 36 wythnos am driniaeth ysbyty yng Nghymru.

Mae ffigurau diweddar wedi taflu goleuni ar effaith yr argyfwng Covid-19 ar amseroedd aros i gleifion, gyda nifer y cleifion oedd yn aros yn ystod y tri mis hynny wedi codi o 30,000 i ryw 120,000.

Cyn yr argyfwng coronafeirws, roedd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod 95% yn derbyn triniaeth o fewn 26 wythnos ac nad oedd neb yn aros dros 36 wythnos.

Mae’r ffigurau yn dangos bod 456,809 ar y rhestr aros ym mis Mawrth, a bod 479,613 ar y rhestr aros erbyn mis Gorffennaf.

Y cyd-destun

Daw’r ffigurau o ymateb ysgrifenedig gan Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, i Aelod o’r Senedd yr WNP (Welsh National Party), Neil McEvoy.

Roedd y Llywodraeth yn arfer cyhoeddi’r ffigurau bob mis, ond fe wnaethon nhw roi’r gorau i wneud hynny ar ddechrau’r argyfwng coronafeirws.

Fyddan nhw ddim yn ailddechrau’r arfer tan ddiwedd y mis hwn, felly mae’r ffigurau hyn yn taflu goleuni ar sefyllfa sydd wedi bod yn weddol ddirgel hyd yma.

Ar Fawrth 13 – tua dechrau’r argyfwng – fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd alw ar fyrddau iechyd i stopio triniaethau nad oedden nhw’n rhai brys.

Nod y cam oedd lleddfu’r pwysau wrth frwydro’r feirws.

Galw am weithredu

Mae Neil McEvoy wedi galw’r ffigurau yn “wirioneddol ysgytwol” ac wedi galw ar Vaughan Gething i weithredu er mwyn sicrhau bod y triniaethau yn mynd rhagddyn nhw.

“Heb unrhyw arwydd bod gobaith am frechlyn yn fuan neu’r feirws yn dod i ben chwaith, mae angen i’r Ysgrifennydd Iechyd frysio i amlinellu ffordd ymlaen fel bod llawdriniaeth a thriniaethau eraill yn gallu digwydd unwaith eto,” meddai.

“Cafodd y cyhoedd eu cyfyngu mewn dull eithafol o heriol ar ddechrau’r flwyddyn er mwyn prynu mwy o amser i’r Ysgrifennydd Iechyd atal y Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei lethu.

“Erbyn hyn, mae’n amlwg bod polisïau Llywodraeth Cymru i atal y feirws wedi methu.

“Y gwir syml yw fod y mwyafrif o fyrddau iechyd dan straen difrifol, tra bod triniaeth mewn eraill fel petai wedi diffygio.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Ar 13 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylid atal pob gweithgaredd nad oedd yn fater brys i baratoi ar gyfer y pandemig.

“Fodd bynnag, yr oedd yn glir y dylai’r holl weithgarwch brys, gan gynnwys gwaith canser, barhau lle’r oedd yn ddiogel ac er lles gorau’r claf ac yr ydym wedi bod yn gweithio gyda Choleg Brenhinol y Llawfeddygon ar hyn.

“Mae Byrddau Iechyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw cleifion COVID a chleifion heb COVID ar wahân ac maent wedi bod yn newid yr amgylchedd gofal drwy greu ‘parthau gwyrdd’.

“Mae’r gwaith yn cael ei arwain yn glinigol ac mae ymgynghorwyr wrthi’n rhoi blaenoriaeth i gleifion yn nhrefn angen glinigol.”

Y ffigurau

Rhwng mis Mawrth a mis Awst cafodd 10,393 o lawdriniaethau eu gohirio oherwydd Covid-19, yn ôl ymateb ysgrifenedig Vaughan Gething.

O’r holl fyrddau iechyd, Bwrdd Hywel Dda (ardal Dyfed) wnaeth brofi’r cynnydd mwya’ – rhwng mis Mawrth a Gorffennaf – yn nifer y cleifion oedd yn aros dros 36 wythnos am driniaeth (cynnydd o 1,624%).

Wele isod tabl o’r niferoedd sydd yn aros dros 36 wythnos ym mhob bwrdd iechyd:

Mawrth 20 Gorffennaf 20 Newid (%)
Aneurin Bevan 1,623 17,967 1007%
Betsi Cadwaladr 11,421 29,235 156%
Caerdydd a’r Fro 3,515 22,129 530%
Cwm Taf Morgannwg 4,504 19,452 332%
Hywel Dda 722 12,450 1624%
Powys 0 519 n/a
Bae Abertawe 6,509 18,078 178%
Cymru gyfan 28,294 119,830 324%