Mae nifer o sefydliadau wedi dod ynghyd o dan arweiniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ddatblygu cynllun pum mlynedd y Carneddau, gyda’r nod o “helpu i hyrwyddo dyfodol cadarnhaol i’r ardal.”
Mae’r cynllun newydd yn cael ei lansio’n ddigidol heddiw (dydd Mercher, Hydref 14).
Mewn datganiad, dywed Dr Marian Pye, rheolwr Partneriaeth Tirwedd y Carneddau fod y Carneddau, sydd uwchlaw Dyffryn Ogwen, yn gartref i amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion prin, gan gynnwys y frân goesgoch a’r merlod eiconig.
“Mae’r cyfnod clo wedi amlygu pwysigrwydd y dirwedd sydd ar ein stepen drws,” meddai.
“Mae Partneriaeth Tirwedd y Carneddau yn gasgliad o sefydliadau sy’n angerddol am wella dealltwriaeth a rheolaeth o’r dirwedd werthfawr hon.”
Y dirwedd “dan bwysau”
Mae’r cynllun newydd yn ymateb i’r gofid bod y dirwedd unigryw “dan bwysau”, yn sgil rhai heriau amgylcheddol fel “newid hinsawdd” yn ogystal â “phwysa pobl”.
Mae’r cynllun hefyd yn bwriadu mynd i’r afael ag rhai ystyriaethau diwylliannol, yn dilyn pryderon fod “gwybodaeth draddodiadol, enwau lleoedd a straeon sy’n cysylltu pobl â’r dirwedd hefyd mewn perygl o gael eu colli.”
Mae Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor, sy’n Gadeirydd y Bartneriaeth, yn dweud bod y lansiad wedi dod “ar amser tyngedfennol i gymunedau gwledig yr ardal”.
“Bydd y cynllun yn cynnig cyfleoedd cyffrous i gyd-weithio i reoli tir mewn modd cynaliadwy ac ar yr un pryd i ddathlu arferion traddodiadol,” meddai.
“Bydd y Bartneriaeth yn gweithio i sicrhau bod diwylliant, straeon ac enwau lleoedd y Carneddau yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”
“Hyrwyddo’r ofalaeth o’r amgylchedd naturiol”
Mae’r Prifardd Ieuan Wyn hefyd wedi croesawu’r cynllun ac yn cydnabod ei bwysigrwydd ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
“Mae Cynllun Tirwedd y Carneddau yn gyfle i ni warchod a chyfrannu i atgyfnerthu’r bywyd Cymreig, hyrwyddo’r ofalaeth o’r amgylchedd naturiol, a chyfoethogi ymhellach yr etifeddiaeth i’w throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol,” meddai.
Grant Cronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri
Mae cynllun y Carneddau wedi ei gefnogi gan grant o £1.7m gan Gronfa Dreftadaeth Genedlaethol y Loteri.
Dywed cyfarwyddwr y Gronfa yng Nghymru, Andrew White, ei bod hi’n “bleser gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cymru i gefnogi Partneriaeth Tirwedd y Carneddau”.
“Fel un o arianwyr blaenllaw’r sector dreftadaeth yng Nghymru, rydym yn croesawu ac yn cefnogi amcanion y bartneriaeth o ddiogelu treftadaeth fregus y Carneddau ar gyfer y dyfodol a rhoi cyfle i gynulleidfa mor eang â phosib i ddarganfod, gwarchod a dathlu’r Carneddau,” meddai.