Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Swyddfa Gartref yn dangos cynnydd o 2% mewn troseddau casineb yng Nghymru yn 2019/2020.

Roedd cynnydd o 8% yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd yn ystod yr un cyfnod.

Bydd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, yn gwneud datganiad yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Hydref 14) i nodi wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Roedd yr ystadegau’n dangos:

  • cynnydd o 10% mewn troseddau casineb yn erbyn pobol drawsryweddol
  • cynnydd o 2% mewn troseddau casineb yn erbyn pobol ag anableddau
  • cynnydd o 2% mewn troseddau casineb lle mae rhywedd yn ffactor
  • gostyngiad o 2% mewn troseddau casineb hiliol
  • gostyngiad o 3% mewn troseddau casineb crefyddol

Bydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn lansio Siarter Troseddau Casineb ddydd Sadwrn (Hydref 17), gan ganolbwyntio ar hawliau dioddefwyr troseddau casineb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r Siarter, ac yn annog sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad nhw hefyd.

‘Mae gan bawb yr hawl i gael eu parchu’

“Ni ddylai unrhyw berson yng Nghymru orfod goddef rhagfarn na throseddau casineb,” meddai Jane Hutt.

“Mae gan bawb yr hawl i gael eu parchu, a dylai pawb allu mynd drwy eu diwrnod heb ddioddef sarhad, aflonyddwch nac ymosodiad.

“Mae’n hanfodol i ddioddefwyr troseddau casineb gael eu cefnogi, ac i’r troseddwyr gael eu dwyn i gyfrif.

“Ledled Cymru, mae sefydliadau’n defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb fel cyfle i atgoffa pobol nad oes rhaid iddyn nhw oddef casineb na rhagfarn.

“Nid yw’n dderbyniol i bobol fyw mewn ofn, dim ond oherwydd pwy ydyn nhw.

“Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn ymuno â mi heddiw i gefnogi’r neges glir iawn hon nad oes lle i gasineb yng Nghymru.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog ei bod hi’n cydweithio â’r heddlu a’r gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb.