Mae Plaid Cymru’n dweud bod y cynllun i golli 200 o swyddi ym Mhrifysgol Bangor yn “siom aruthrol” ac yn “ergyd fawr i Fangor, i Wynedd ac i Gymru gyfan.
Cafodd staff ym Mhrifysgol Bangor wybod yr wythnos ddiwethaf (dydd Mercher, Hydref 7) ym mha adrannau y bydd diswyddiadau yn digwydd.
Daeth cyhoeddiad fis diwethaf fod y Brifysgol wedi cychwyn cyfnod o ymgynghori er mwyn arbed £13m.
Yn ogystal ag 80 aelod o staff academaidd, bydd 120 aelod o staff cymorth yn cael eu diswyddo, gan effeithio ar weithwyr yn yr adrannau technoleg gwybodaeth, arholiadau, y gofrestrfa academaidd, llyfrgelloedd, ystadau, llety, a chymorth i fyfyrwyr.
Dyma’r trydydd tro i’r brifysgol gyflwyno toriadau swyddi yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Mae undebau llafur UNSAIN, UCU ac UNITE wedi rhybuddio y gallai graddfa’r toriadau niweidio enw da Prifysgol Bangor, cefnogaeth a lles myfyrwyr, a’r economi leol.
Ymateb Plaid Cymru
“Mae’r newyddion am y bwriad i golli hyd at 200 o swyddi ym Mhrifysgol Bangor yn siom aruthrol i’r ardal,” meddai cynghorwyr sir Plaid Cymru ym Mangor.
“Mae’n ergyd fawr i Fangor, i Wynedd ac i Gymru gyfan.
“Rydyn ni, wrth gwrs, yn meddwl am y staff ac am effaith y cyhoeddiad ar y myfyrwyr sy’n astudio yn y Brifysgol ar hyn o bryd.
“Mae’n gyfnod anodd iawn i brifysgolion ledled Cymru, ac rydym yn deall bod argyfwng Covid-19 yn creu heriau ariannol.
“Mae rhai aelodau o staff wedi codi pryderon bod y pandemig yn cael ei ddefnyddio fel esgus i ad-drefnu’r Brifysgol o’r bôn i’r brig.
“Rydym yn amau doethineb edrych ar broses o’r fath allai weld newid pellgyrhaeddol ar y Brifysgol yng nghanol ansicrwydd argyfwng iechyd byd-eang.”
“Rydym yn annog trafodaeth agored gyda’r gweithlu, yr undebau a rheolwyr y Brifysgol i edrych yn greadigol ar yr arbedion a’r toriadau ariannol sy’n eu hwynebu.
“Bydd colli swyddi o’r fath yn glec i’r gymuned, i ddinas Bangor ac i Wynedd drwyddi draw.
“Mae’r Brifysgol yn gyflogwr mawr yng Ngwynedd ac mae cyfraniad i’r economi leol yn enfawr.
“Erfyniwn am gydweithio, trafodaethau agored a hyblygrwydd er mwyn arbed rhywfaint ar y swyddi sydd dan fygythiad.”