Mae pryderon newydd am HS2 wedi cael eu nodi chwe mis yn unig ar ôl i’r gyllideb gael ei chynyddu.
Mae HS2 Ltd, y cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu’r rheilffordd, wedi dweud y gallai cymal cyntaf y prosiect rhwng Llundain a Birmingham gostio £800m yn fwy na’r disgwyl.
Mewn datganiad ysgrifenedig i’r Senedd, dywedodd Andrew Stephenson, Gweinidog HS2, fod hanner y ffigwr hwn yn dod oherwydd bod paratoi’r llwybr ar gyfer adeiladu yn cynnwys “mwy o heriau sylweddol na’r disgwyl.”
Un o’r rhain yw’r angen i gael gwared ar fwy o asbestos na’r disgwyl.
Mae “pwysau cost sylweddol” arall gwerth £400m wedi cael ei ddatgelu wrth ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer gorsaf Euston.
Rhybuddia Andrew Stephenson fod ymchwiliad ar y gweill “a allai ddatgelu rhagor o bwysau”.
Ymateb yr Adran Drafnidiaeth
Dywed llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth fod disgwyl o hyd i gymal cyntaf HS2 fynd yn ei flaen am y “gost darged” o £40.3bn.
“Wrth i’r adeiladu fynd yn ei flaen, mae’r Llywodraeth hon yn dal yn ffocysu ar reoli costau er mwy sicrhau bod y rheilffordd uchelgeisiol hon yn darparu budd a gwerth am arian i’r trethdalwr.”