Dylai Mark Drakeford weithredu er mwyn gosod cyfyngiadau teithio o lefydd yn Lloegr sydd â chyfraddau coronafeirws uchel rhag teithio i Gymru, medd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Beirniadodd Adam Price benderfyniad prif weinidog Cymru i sgwennu llythyr at Boris Johnson yn ei annog i weithredu’n annibynnol dros bobol Cymru.

Dywedodd fod hyn yn ymwneud â “iechyd cyhoeddus” a “gwarchod ein cymunedau.”

Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru adrodd bod 764 yn fwy o achosion wedi bod yng Nghymru ddoe (dydd Mawrth, Hydref 13) tra bod pump yn rhagor wedi marw.

“Mae hyn yn ymwneud â iechyd cyhoeddus a gwarchod cymunedau,” meddai Adam Price.

“Mae’r Prif Weinidog yn gwybod hynny.

“Yn hytrach nag ysgrifennu llythyr arall at San Steffan na chaiff ei ateb, dylai’r prif weinidog weithredu’n annibynnol dros bobol Cymru.

“Mae pandemig yn galw am weithredu’n gyflym a bwriadol.

“Mae angen arweiniad ar Gymru’n hytrach na llythyrau.”