Mae Trafnidiaeth Cymru’n parhau i gydweithio â chymunedau a grwpiau lleol ledled Cymru i sicrhau bod gorsafoedd trên yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol.

Mae’r gwelliannau hyn i orsafoedd trenau, sy’n rhan o’u Gweledigiaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol, yn cefnogi buddsoddiad gwerth £90m gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid trefi Cymru.

Y Fenni

Eisoes, mae Trafnidiaeth Cymru wedi buddsoddi £300,000 yng ngorsaf drenau’r Fenni a bydd yr ystafelloedd yn cael eu defnyddio gan orsaf radio’r ysbyty lleol, gorsaf Nevill Hall Sound.

Yn ogystal, bydd y safle yn cael ei ddefnyddio gan Peak Cymru, mudiad celfyddydol sydd â’i wreiddiau yn y Mynyddoedd Duon, ac sy’n gweithio’n greadigol gydag artistiaid proffesiynol a chymunedau.

Gan ddefnyddio’r lleoliad yng ngorsaf drenau’r Fenni fel stiwdio ac oriel i artistiaid, nod Peak Cymru yw creu cyfleoedd i blant a phobol ifanc ddod yn rhan o’u gwaith.

Llandudno

Yn Llandudno, mae Trafnidiaeth Cymru yn buddsoddi £100,000 er mwyn cynnal mudiad Creating Enterprise – mudiad sy’n canolbwyntio ar helpu pobol leol i ganfod gwaith.

Bydd y mudiad yn cydweithio â Phartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Dyffryn Conwy, gan greu cysylltiadau â chymunedau Ynys Môn.

‘Blaenoriaethu Canol Trefi’

Dywed Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Cymru, y bydd y “pandemig yn ail-siapio’n cymunedau, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein huchelgais i weld mwy o bobol yn gweithio o adref neu yn agos i adref”.

“Rydym eisoes wedi cadarnhau buddsoddiad gwerth £90 miliwn i wella canol trefi ledled Cymru drwy’r rhaglen Trawsnewid Trefi,” meddai.

“Fel rhan o hyn, rydym yn ‘Blaenoriaethu Canol Trefi,’ ac yn gosod gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol trefi lle bo modd.

“Bydd cael rhagor o gyfleusterau mewn gorsafoedd trenau yn rhan bwysig o’r newidiadau.

“Bydd y Weledigaeth Gwella Gorsafoedd yn gwneud y gorsafoedd yn llefydd brafiach, tra bod y Weledigaeth ar gyfer Rheilffyrdd Cymunedol yn rhoi rheswm i bobol fynd yno.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhan weithredol o’n cymunedau, ac yn eu gwasanaethu.”

‘Cynorthwyo adfywio lleol’

“Mae’n wych gweld y cynnydd yn rhan gyntaf y buddsoddi er mwyn datblygu mannau cymunedol mewn gorsafoedd trên,” meddai James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru.

“Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am eu bwriad i sicrhau bod 30% o weithlu’r wlad yn parhau i weithio o adref, a bydd sefydlu mannau cymunedol yn cynorthwyo adfywio lleol ledled y wlad.

“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi penodi pum Swyddog Cysylltiadau Cymunedol er mwyn sefydlu perthynas â grwpiau lleol, ac i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed wrth gynllunio trafnidiaeth leol.

“Rydym wedi lansio Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol De Orllewin Cymru ar gyfer ardal Abertawe, ac wedi sefydlu busnesau bach annibynnol ym Margoed, Caerfyrddin a Ffynnon Taf.”

Ychwanegodd Sharon Jones, prif weithredwr partneriaethau gyda Creating Enterprise, eu bod yn “hapus dros ben o fod yn sefydlu hwb newydd mewn adeilad hardd yng nghanol y gymuned [yn Llandudno]”.

“Wrth i Gymru baratoi ar gyfer y ‘normal newydd’, rydym yn barod i gynnig cyfleoedd, cymorth ac adnodda i gynorthwyo pobol Conwy wrth iddynt addasu a ffynnu,” meddai wedyn.