Mae Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig Cymru’n galw ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i gynllunio cyn i’r gaeaf gyrraedd ar gyfer pobol sy’n dioddef o gyflyrau ysgyfaint.
Mae’r elusen yn amcangyfrif fod 102,000 o bobol yng Nghymru sydd â chyflyrau ysgyfaint wedi methu eu hadolygiad blynyddol yn ystod y cyfnod clo, a bod y rheiny yn hanfodol i helpu pobol i ddelio â symptomau a sicrhau eu bod yn cymryd y meddyginiaethau cywir.
Ar gyfartaledd, mae 80% yn fwy o bobol yn mynd i’r ysbyty ag afiechyd yr ysgyfaint yn ystod Rhagfyr, Ionawr a Chwefror o’i gymharu â Mawrth, Ebrill a Mai.
Dywed yr elusen fod angen i’r Gwasanaeth Iechyd:
- sicrhau bod gan feddygon teulu yr offer digidol sydd eu hangen er mwyn darparu cefnogaeth trwy gyswllt fideo a thros y ffon, yn ogystal ag ymgynghoriadau wyneb yn wyneb.
- dweud yn glir fod cleifion yn gallu dewis sut maen nhw’n cael eu gweld.
- datgan sut mae gofal sylfaenol yn gallu adnabod, rhoi diagnosis a thrin pobol dros y gaeaf, yn ogystal â darparu profion diagnostig.
- cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol i fynd i’r afael â’r adolygiadau blynyddol gan roi blaenoriaeth i’r rheiny sy’n wynebu’r perygl mwyaf.
“Mae’n hanfodol fod pobol sydd â chyflyrau ysgyfaint ac sydd mewn perygl o ddod yn wirioneddol sâl os ydyn nhw’n cael coronafeirws yn cael cefnogaeth i ddelio â’u cyflyrau y gaeaf hwn,” meddai Joseph Carter, Pennaeth Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydeinig Cymru.
“Mae’n bwysig fod Gwasanaeth Iechyd Cymru’n mynd i’r afael â’r gofidion hyn ar frys a dw i’n gobeithio y byddan nhw’n rhoi sicrwydd i gleifion.”