Mae Neil McEvoy wedi cyhuddo’r prif weinidog Mark Drakeford o “ochrgamu” cwestiwn am helynt tystysgrifau diogelwch tân cladin yng Nghymru.
Roedd yr Aelod Annibynnol o’r Senedd wedi gofyn am ddatganiad gan y prif weinidog am “ddatgeliadau bod tystysgrif diogelwch tân wedi cael ei llofnodi’n dwyllodrus ar gyfer blociau o fflatiau yng Nghaerdydd a thu hwnt”.
Wrth ateb, dywedodd Mark Drakeford mai “mater i’r heddlu ac adrannau safonau masnachu’r awdurdodau lleol” yw adroddiadau o dwyll, a bod ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd.
“Iawn,” meddai Neil McEvoy, cyn ychwanegu, “Ochrgamu da yn y fan yna.”
Hawl i holi
Roedd Neil McEvoy wedi cael yr hawl i siarad yn y Siambr am fod ei gwestiwn wedi cael ei ddewis gan y Llywydd Elin Jones.
Ond does ganddo fe ddim hawl i ofyn cwestiynau dilynol na chymryd rhan mewn trafodaethau agored ar hyn o bryd.
Roedd y Llywydd wedi gofyn am “ymddiheuriad personol” oddi wrth Aelod o’r Senedd a rannodd gyfres o negeseuon amdani ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd yna eiriau croes rhwng y ddau yn ystod dadl am hiliaeth yn y siambr, ac aeth Neil McEvoy ati i rannu ei rwystredigaeth ar-lein yn ystod ac wedi’r sesiwn.
Anfonodd Elin Jones lythyr at Aelodau o’r Senedd yn nodi na fyddai Neil McEvoy yn cael cyfrannu yn y siambr tan iddo ymddiheuro a dileu ei ddeunydd amdani ar-lein.
‘Grenfell Cymreig’
Wrth gael siarad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 13), rhybuddiodd Neil McEvoy fod “miloedd o bobol yng Nghymru bellach yn byw mewn fflatiau anniogel sy’n werth dim byd”.
“Dydyn nhw ddim yn gallu eu gwerthu nhw ac maen nhw’n byw yno gan wybod, pe bai yna tân, y byddwn ni’n edrych ar Grenfell Cymreig,” meddai.
“Maen nhw’n cael eu gwasgu bob cyfle: mae yswiriant drwy’r to, mae costau’r gwasanaeth yn codi, ac mae rhai hyd yn oed yn gorfod talu i arolygwyr diogelwch tân fod ar y safle bob amser.
“Dyma sefyllfa y mae gwir angen ei datrys, ond pan wnaeth trigolion Victoria Wharf ysgrifennu atoch chi am eu bloc, wnaethon nhw ddim hyd yn oed gael ateb gennych chi.”
Fe gyfeiriodd at achos yn Harbwr Glasgow lle mae’r datblygwr Taylor Wimpey yn talu £30m i drwsio cladin peryglus ond fe ddywedodd fod disgwyl i drigolion yng Nghaerdydd dalu drostyn nhw eu hunain.
“Pam fo’r datblygwr yn talu i drwsio’r broblem yn yr Alban, tra bo disgwyl yng Nghymru i drigolion dalu drostyn nhw eu hunain?” meddai.
“Mae Taylor Wimpey yn cynghori eich llywodraeth ar ganllawiau adeiladu, felly oni allech chi eu cynghori nhw i dalu’r arian fel maen nhw wedi’i wneud yn yr Alban, neu ai’r gwrthdaro buddiannau sy’n gyrru diffyg gweithgarwch y Llywodraeth yn y maes yma?”
Ymateb Mark Drakeford
“P’un a yw’n dwyll, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, nid dyma’r eiliad i ochrgamu rhywbeth, er mwyn egluro bod yr awdurdodau sydd â’r cyfrifoldeb o ymchwilio i dwyll yn gwneud hynny,” meddai wedyn.
“Yn yr achos hwn, mae Heddlu Gwent ac adran safonau masnach Caerffili yn cynnal ymchwiliad gweithgar i’r materion y dechreuodd y cwestiwn hwn â nhw, a rhaid iddyn nhw allu cwblhau’r ymchwiliad hwnnw.”