Mae 24 o achosion o’r coronafeirws yn ysbytai Abertawe, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae gwasanaethau’r galon wedi’u heffeithio yn Ysbyty Treforys, lle mae llawdriniaethau’r galon nad ydyn nhw’n rhai brys wedi dod i ben am y tro.

Yn Ysbyty Singleton, mae naw aelod o staff mamolaeth hefyd wedi profi’n bositif ac maen nhw’n hunanynysu wrth i’r ysbyty barhau ar agor yn ôl yr arfer.
Yn ôl y bwrdd iechyd, diogelwch cleifion yw eu blaenoriaeth ac maen nhw wedi rhoi camau yn eu lle i fynd i’r afael â’r sefyllfa.