Fe fydd Awdurdodau Lleol yn cael yr hawl gan Lywodraeth Cymru i roi dirwyon i bobol am barcio ar balmentydd.

Daw hyn yn dilyn argymhellion annibynnol criw dan arweiniad Phil Jones, peiriannydd trafnidiaeth sydd hefyd wedi bod yn arwain gweithgor ar gyflwyno terfyn cyflymdra o 20m.y.a.

Maen nhw wedi awgrymu y dylid rhoi mwy o bwerau dinesig i fynd i’r afael â phroblemau parcio cynyddol.

Mae Llywodraeth Cymru am dderbyn yr holl argymhellion.

Mae Gweithgor Parcio ar Balmentydd Cymru wedi gwrthod gwaharddiad llwyr fel sydd ar y gweill yn yr Alban gan y gallai hynny gymryd pum mlynedd i’w weithredu.

Yn hytrach, mae cynllun ar y gweill i roi pwerau arbennig i gynghorau weithredu o fis Gorffennaf 2022.

Mae ymgynghoriad ar y ffordd ymlaen newydd ddechrau yn Lloegr.

‘Y gyfraith ddim mor glir ag y dylai fod’

“Nid yw’r gyfraith fel ag y mae hi mor glir ag y dylai fod,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth a sylfaenydd y gweithgor.

“Nid oes y fath drosedd â pharcio ar bafin, ac er bod yr heddlu yn cael defnyddio’r drosedd bresennol o ‘greu rhwystr diangen ar ran o’r briffordd’, anaml iawn y gwnân nhw hynny.

“Rydym am i fwy o bobol gerdded teithiau byr ond eto, rydyn ni’n fodlon goddef amodau sy’n ei gwenud hi’n anodd i gerddwyr; mae gormod o lwybrau’n llawn annibendod neu wedi’u blocio.

“Yn ôl arolwg diweddar, roedd 83% o bobol Cymru’n gweld hyn yn broblem go iawn.

“Rydyn ni’n cydnabod bod gormod o geir mewn rhai strydoedd o’u cymharu â’r lleoedd sydd ar gael a dydyn ni ddim am gosbi pobl sydd heb ddewis. Ond rydym am i Gynghorau allu canolbwyntio ar yr ardaloedd lle mae’r broblem yn fawr ac ymateb yn ôl yr amgylchiadau lleol.

“O’u cymryd gyda’i gilydd, bydd gan y ddwy fenter y potensial i achub bywydau ac ailgydbwyso’r amgylchedd o blaid cerddwyr i greu cymunedau lle mae pobl yn bwysicach na cheir.”